Mae data newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dangos pa mor eang  oedd y llifogydd a effeithiodd ar Gymru yn ystod mis Rhagfyr.

Er bod Cymru gyfan wedi gweld glaw trwm a chyson, y Gogledd Orllewin gafodd ei effeithio fwyaf.

Cyrhaeddodd sawl afon yn yr ardal eu lefel uchaf ers i gofnodion gael eu cadw, ac roedd y glaw a achosodd hyn hefyd yn torri pob record.

‘Afonydd yn cyrraedd eu lefel uchaf erioed’

Ymhlith yr afonydd yng Ngogledd Cymru i gyrraedd lefelau uchaf newydd ar 26 Rhagfyr oedd Seiont, Llyfni a Gwyrfai, tra bo Conwy ac Elwy hefyd wedi cyrraedd y lefel ail uchaf a gofnodwyd erioed.

Yn y cyfnod rhwng 10–26 Rhagfyr mae mesuryddion glaw yng Nghwm Dyli, Capel Curig, Ysbyty Ifan a Betws-y-coed yn dangos fod lefelau glaw wedi cyrraedd, neu’n agos iawn at, yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel digwyddiad “un mewn 100 mlynedd.”

Ac er i sawl cartref ddioddef llifogydd, llwyddodd amddiffynfeydd i warchod llawer mwy, gan gynnwys y cynllun £5.6 miliwn sydd newydd ei orffen yn Nolgellau, sy’n lleihau risg llifogydd i ryw 300 o gartrefi, meddai CNC.

Rhybudd llifogydd

Cyhoeddodd CNC 178 rhybudd i fod yn barod am lifogydd a 55 rhybudd llifogydd yn ystod mis Rhagfyr.

Meddai Jeremy Parr, Rheolwr Llifogydd a Risg Gweithredol CNC: “Mae’r data hwn yn dangos cymaint o her oedd y sefyllfa a wynebwyd gan bawb ym mis Rhagfyr.

“Oherwydd bod y ddaear mor wlyb, roedd afonydd yn codi’n eithriadol o gyflym ar ôl i’r glaw ddisgyn a bu i’r amddiffynfeydd warchod cartrefi’n llwyddiannus mewn sawl cymuned ledled Cymru.

“Tra bo’r glaw cyson dros 16 diwrnod yn cael ei ddisgrifio fel profiad ‘un mewn 100 mlynedd’ nid yw hyn yn golygu na fydd yn gallu digwydd eto yn y dyfodol.

“Efallai fod y perygl tymor-byr wedi pasio am y tro. Serch hynny, fe fyddwn i’n annog pobl yn gryf i edrych ar eu risg o lifogydd drwy ymweld â gwefan CNC, cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim os ydyn nhw mewn perygl, a chreu cynllun er mwyn iddyn nhw fod yn barod y tro nesaf bydd bygythiad o lifogydd.”