Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cynllun brechu moch daear yn erbyn TB yng ngogledd Penfro yn cael ei atal dros dro oherwydd y prinder byd-eang o’r brechlyn BCG.

Daw cyhoeddiad Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd wedi i Sefydliad Iechyd y Byd alw ar bob gwlad i edrych eto ar eu defnydd o’r BCG i sicrhau bod gwledydd sydd â’r cyfraddau TB dynol uchaf i gael blaenoriaeth, ac i dargedu unigolion fydd yn elwa fwyaf o frechiadau BCG.

Mae gan y brechlyn ar gyfer moch daear yr un fformiwla â’r brechlyn sy’n cael ei ddefnyddio at ddefnydd dynol.

Defra sy’n archebu’r brechlyn BadgerBCG ar gyfer 2016 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.  Oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn BCG ar gyfer defnydd dynol, mae Statens Serum Institut SI – yr unig gwmni sydd â’r awdurdod marchnata i gynhyrchu BadgerBCG – wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru na fydd yn cynhyrchu’r BadgerBCG nes iddyn nhw eu hysbysu’n wahanol.

‘Colli hygrededd’

 

Dywedodd llefarydd amaeth Plaid Cymru Llŷr Gruffydd bod y sefyllfa yn “shambls” ac y byddai Llywodraeth Cymru yn colli hygrededd ymhlith y sector amaethyddol.

“Mae hyn yn newyddion syfrdanol a fydd yn gwneud y cynllun brechu yn destun sbort. Dylai’r Llywodraeth Lafur fod â chywilydd ei bod wedi gadael i hyn ddigwydd,” meddai.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: “Pe byddem i barhau gyda’n rhaglen brechu moch daear y flwyddyn nesaf, byddai’n rhaid inni ddod o hyd i BCG i’w ddefnyddio ar gyfer moch daear.

“O ystyried y prinder byd-eang, a’r ffaith bod un brechlyn i foch daear yn gyfystyr â 10 dos i oedolyn neu 20 dos i blentyn, rydym wedi penderfynu atal y brechu tan i’r cyflenwad dynol fod yn ddigonol yn fyd-eang.”

Iechyd y cyhoedd ‘yn flaenoriaeth’ 

Meddai Rebecca Evans: “Mae TB gwartheg yn broblem ddifrifol o ran iechyd anifeiliaid, ac rydym yn parhau i greu a datblygu rhaglen sy’n gadarn ac yn hyblyg, ac sy’n golygu gweithio mewn partneriaeth tuag at ein nod o Gymru heb TB.

“Fodd bynnag, mae’n rhaid i iechyd y cyhoedd fod yn flaenoriaeth bob tro, a tan i’r broblem gyda’r cyflenwad gael ei datrys, bydd ein prosiectau brechu moch daear sy’n cael eu cynnal yng Nghymru ar hyn o bryd – a oedd yn cynnwys blwyddyn 5 y prosiect Ardal Triniaeth Ddwys, a rhannau o’r Grant Brechu Moch Daear – yn cael eu hatal.

“Rydym wedi cwblhau pedair blynedd o raglen bum mlynedd o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys, a dwy flynedd o grantiau brechu preifat, ond nid yw hyn yn golygu bod y gwaith caled yn y blynyddoedd blaenorol wedi eu gwastraffu.  Rydym wedi llwyddo i roi dros 5,500 dos yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Ar hyn o bryd nid oes gan 94.4% o’n buchesi yng Nghymru y clefyd, ac rydym wedi ymrwymo i  barhau â’n gwaith caled i ddileu TB gwartheg o Gymru am byth.

“Rwyf wedi comisiynu gwaith enghreifftiol i edrych ar effaith posib y newidiadau hyn ar y prosiect brechu o fewn Ardaloedd Triniaeth Ddwys, ac i asesu nifer o sefyllfaoedd.  Byddwn yn parhau i werthuso effaith bob ymyrraeth o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys, gan gynnwys brechu.”