Ar ddiwrnod cyntaf y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd dros hanner o ffermwyr Cymru yn cael eu talu am ‘ddiogelu’ a ‘gwella’ cefn gwlad drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol dros yr wythnos hon yn dilyn oedi yn y broses o newid y system.

Mae’r system a fydd yn dod yn lle’r Cynllun Taliad Sengl yn dechrau fory, ac mae’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd wedi cadarnhau y bydd y mwyafrif o’r ffermwyr sy’n gymwys yn cael gwerth 80% o’u taliad yn ystod mis Rhagfyr.

Bydd y 20% sy’n weddill i ffermwyr yn cael ei dalu’n ôl ym mis Ebrill nesaf, er bydd rhai taliadau – mewn achosion o brofebion er enghraifft – yn cymryd mwy o amser.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi dweud bod y cyhoeddiad yn “siomedig ond nid yn annisgwyl.”

Mae oedi wedi bod wrth dalu ffermwyr o dan y cynllun, a hynny oherwydd newidiadau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, system daliadau newydd, Gwyrddu a her gyfreithiol gan gynhyrchwyr oedd yn anhapus â’r cynllun newydd.

Mae ffermwyr cymwys sy’n gallu hawlio Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael eu talu am ‘ddiogelu’ a ‘gwella’ cefn gwlad ac mae’n rhaid iddyn nhw brofi eu bod yn “ffermwyr actif” er mwyn cael eu talu.

“Mae’n dda iawn gen i gyhoeddi y bydd ffermwyr Cymru’n dechrau derbyn eu rhandaliadau BPS fory; sef y dyddiad cyntaf y mae rheolau’r Comisiwn Ewropeaidd yn caniatáu hynny,” meddai’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans.

Gweithio’n ‘ddiflino’

Rhoddodd y Dirprwy Weinidog ganmoliaeth i waith caled staff Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ond mae hefyd wedi dweud wrth ffermwyr am beidio â ffonio i mewn i holi sut roedd eu proses hawlio yn dod.

“Rwy’n ddiolchgar iawn am waith caled staff RPW sydd wedi bod yn prosesu’r taliadau hyn yn ddiflino gan weithio ar benwythnosau i gael yr arian at y ffermwyr mor fuan ag y bo modd.

“Rwy’n argymell yn gryf bod ffermwyr sydd wedi cofrestru ar RPW ar-lein yn defnyddio’r system electronig honno i weld a oes ganddynt faterion heb eu datrys, yn hytrach na ffonio’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid, ein Swyddfeydd Rhanbarthol neu’r Cydgysylltwyr Fferm.”

Cyhuddo’r Llywodraeth o ‘fethu deall cefn gwlad’

Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod perthynas Llafur â Chymru wledig “ar ei hisaf nag erioed o’r blaen.”

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Faterion Amaethyddol , Russell George, fod y Llywodraeth yn un “gan y ddinas ar gyfer y ddinas”, gan ddweud nad oes un aelod cabinet yn cynrychioli rhan wledig o Gymru.

“Mae’r berthynas rhwng cymunedau gwledig a Llywodraeth Cymru wedi bod yn un afreolus drwy gydol y Tymor Cynulliad hwn,” meddai.

“O ran Taliadau Sylfaenol, mae ffermwyr bellach yn wynebu’r gyfradd uchaf o drawsgyweirio yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ofnadwy o araf yn cyflwyno cynlluniau o dan y Cynllun Datblygu Gwledig i wneud yn iawn am y golled hynny o enillion.”