Cerith Rhys Jones mewn digwyddiad gan Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru
Cerith Rhys Jones, Swyddog y Cyfryngau ac Ymgyrchoedd WWF Cymru, sy’n son am ei obeithion ar gyfer cynhadledd newid hinsawdd diweddara’r Cenhedloedd Unedig – COP21

Mae’n ddiwrnod oer ym mis Rhagfyr 2009. Crwt 16 mlwydd oedd o Gwmgors, ger Rhydaman, yw’r person olaf fyddech chi’n dychmygu ei weld yn ciwio i fynd i mewn i gynhadledd ryngwladol ar newid hinsawdd yng Nghopenhagen.

Fi oedd y crwt ‘na, yn yfed coffi oedd y fyddin yn ei ddosbarthu, ac ymhlith gwleidyddion, cyfreithwyr ac arweinwyr amgylcheddol o bedwar ban byd.

Yn 2009, es i gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones a Gweinidog yr Amgylchedd (ar y pryd) Jane Davidson i COP15, sef cynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, i gynrychioli pobl ifanc Cymru a’u gobaith am gytundeb deg, rwymol a byd-eang ar daclo newid hinsawdd. Ar y pryd, ro’n i’n un o Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Cymru ac yn aelod o Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Wedi’r holl giwio, i mewn i’r gynhadledd â fi ac fe ges i gyfle i siarad â phobl a sefydliadau o bob rhan o’r byd am yr hyn roeddwn i eisiau ei weld yn dod o Gopenhagen. Ro’n i’n obeithiol iawn y byddai’r arweinwyr yn y gynhadledd yn taro’r fargen fyd-eang oedd ei hangen i dorri allyriadau a thaclo bygythiad mwyaf ein planed.

Chawsom ni ddim y fargen oeddem ei heisiau yn Nenmarc.

‘Gobaith am ddyfodol gwell’

Des i’n ôl i Gymru â theimladau cymysg. Ro’n i’n falch fod cytundeb o ryw fath wedi digwydd, hyd yn oed os oedd hi’n wan. Roedd hynny’n well na dim cytundeb o gwbl ond, o edrych yn ôl, ro’n i’n llawer rhy optimistaidd am yr hyn y gallai Copenhagen gyflawni.

Serch fy rhwystredigaeth, ces i nifer o sgyrsiau gyda phobl o bedwar ban y byd am y gwaith da oedd yn digwydd yng Nghymru i daclo newid hinsawdd, a fy ngobaith am ddyfodol gwell.

Chwe blynedd yn ddiweddarach, rwy’ nawr yn gweithio yn WWF Cymru ac yn ymgyrchu ar newid hinsawdd. Ymhen wythnos, bydd arweinwyr yn cyfarfod unwaith eto – ar gyfer COP21. Mae angen sicrhau nad Copenhagen 2.0 yw’r gynhadledd hon. Mae’r byd eisiau cytundeb yn awr sydd wir yn deg, yn fyd-eang ac yn rhwymol, er mwyn gweithredu ar newid hinsawdd byd-eang.

‘Angen siarad ag un llais’      

Fel cymdeithas, mae angen inni siarad ag un llais cryf pan rydym yn galw ar ein harweinwyr i roi cenedlaethau’r dyfodol a’r bobl fwyaf bregus yn ein plith yn gyntaf. Mae angen inni eu hatgoffa nhw fod y byd angen gweithredu ar newid hinsawdd er lles popeth sy’n annwyl i ni.

Os bydd digon ohonom yn galw am hynny gyda’n gilydd, mae’n rhaid y bydd ein gobaith am fyd gwell a mwy cynaliadwy yn rhy gryf i’w anwybyddu.

Brynhawn Sadwrn 28 Tachwedd, bydd pobl o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd ar gyfer Diwrnod Hinsawdd Cymru. Bydd y reid feiciau dorfol o ganol y brifddinas i lawr i’r Bae, a’r rali ar risiau’r Senedd, yn rhan o fudiad byd-eang a rhwydwaith enfawr o bobl sy’n gobeithio am ddyfodol gwell.

Dyma ein cyfle i alw am weithredu uchelgeisiol ar newid hinsawdd ac i ddangos fod pobl Cymru yn dymuno byw mewn gwlad ac ar blaned sy’n gynaliadwy. Dyma’n ffordd ni o nodi dechrau cynhadledd newid hinsawdd diweddara’r Cenhedloedd Unedig – COP21 – a galw ar y bobl yno i daro’r fargen sydd wirioneddol ei hangen arnom nawr.

Bydd yna siaradwyr amrywiol, barddoniaeth, a cherddoriaeth i’n hadlonni ni wrth inni alw am ddyfodol gwell. Croeso ichi fynd yn syth i’r Senedd os ‘dych chi ddim am ymuno â’r reid feiciau.

Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Hinsawdd Cymru, 28 Tachwedd 2015.

Cerith Rhys Jones yw Swyddog y Cyfryngau ac Ymgyrchoedd WWF Cymru