Mae Network Rail wedi cadarnhau bod y trenau rhwng Machynlleth a’r Amwythig yn rhedeg yn ôl yr arfer unwaith eto yn dilyn llifogydd ar y lein rhwng Machynlleth a Chaersws dros y penwythnos.

Ond, mae’r oedi yn parhau ar drenau rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog oherwydd y tywydd garw, gyda rhybudd llifogydd mewn grym mewn sawl ardal o Gymru.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhagweld y bydd storm Barney yn taro Prydain, ac yn effeithio’n arbennig ar Gymru yr wythnos hon.

Mae’r rhybudd o lifogydd yn parhau mewn grym yn ardal Dyffryn Dyfrdwy Isaf rhwng Llangollen a dolau Trefalyn.

Maen nhw’n nodi bod amddiffynfeydd llifogydd yn eu lle wrth iddyn nhw ddisgwyl i lefel yr afon godi yn ystod yr oriau nesaf.

Mae rhybuddion llifogydd eraill wedi’u gosod i ddalgylchoedd Dysynni, Glaslyn a Dwyryd, Mawddach a Wnion yng Ngwynedd, yn ogystal â Chorwen, de Penfro, a dalgylchoedd Hafren ac Efyrnwy ym Mhowys.

Storm Barney

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gall storm Barney daro Prydain gyda’r gwynt yn hyrddio hyd at 80mya yn ystod yr wythnos.

Fe fydd rhannau ar hyd arfordir Cymru yn cael eu heffeithio’n bennaf, ac fe fydd rhybuddion melyn yn cael eu gosod i’r ardaloedd hynny ar gyfer prynhawn a nos Fawrth.

Storm Barney yw’r ail storm i gael ei henwi o dan brosiect enwi’r Swyddfa Dywydd.

Yr wythnos diwethaf, fe hyrddiodd storm Abigail ar draws Prydain gan adael mwy na 20,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan.