Llyn Padarn
Mae dyfroedd ymdrochi Cymru, sef 101 o draethau ac un llyn, Llyn Padarn yng Ngwynedd, wedi bodloni safonau ansawdd newydd yr Undeb Ewropeaidd.

Dyna y mae canlyniadau diweddaraf yr UE yn eu dangos, gydag 82 o’r dyfroedd yn cyrraedd y dosbarth ‘rhagorol’, 16 yn ‘dda’ a phedwar yn ‘ddigonol’.

Doedd dim un o ddyfroedd Cymru’n cael ei ddynodi’n ‘wael’, mewn system newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i galw’n “fwy llym”.

Mae’r system newydd wedi cael ei chyflwyno ar gyfer profi ansawdd dŵr ymdrochi ar draws pob gwlad yn yr UE, gyda’r nod o wella dyfroedd ymdrochi ledled Ewrop.

Dyfroedd yn denu ‘miliynau o dwristiaid bob blwyddyn’

“Ein harfordir hardd ni yw un o’r prif atyniadau i filiynau o dwristiaid bob blwyddyn. Drwy gyrraedd y targedau llym hyn y mae’r UE wedi’u gosod, gallwn fod yn ffyddiog y bydd pawb sy’n ymweld â glan y môr yng Nghymru’n mwynhau dŵr ymdrochi o ansawdd uchel,” meddai’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant.

“Mae angen inni gynnal y safonau uchel hyn yn awr, fel bod pawb ohonom yn cael parhau i fwynhau holl fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ein dŵr ymdrochi.”

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cydgasglu ystadegau’r dyfroedd ymdrochi drwy gymryd samplau yn rheolaidd drwy gydol y tymor ymdrochi (o 15 Mai i 30 Medi) a’r Comisiwn Ewropeaidd sy’n gwirio’r wybodaeth honno.

Economi Cymru’n gallu elwa

Ac yn ôl Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hyn yn newyddion ‘gwych’ i’n heconomi,

“Bydd ein dyfroedd ymdrochi glân, ein harfordir a’n hamgylchedd naturiol ni’n parhau i gynnig manteision lu i bobl Cymru ac i ymwelwyr,” meddai Emyr Roberts.

“I lawer o deuluoedd, gwyliau ger y môr neu ddiwrnod ar y traeth yw eu hoff weithgaredd felly mae’r llwyddiant hwn yn newyddion gwych i drigolion, amgylchedd ac economi ein gwlad.”

“Ein sialens ni rwan yw cynnal y safon uchel hon, a byddwn yn dal ati i weithio’n galed i ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol a sicrhau bod ansawdd ein dyfroedd yn aros yn uchel.”