Mary Hughes a Dafydd Idriswyn Roberts
Mae’r cyfnod ymgynghori yn ailagor heddiw ynglŷn â chynllun dadleuol y Grid Cenedlaethol i godi peilonau ar draws Ynys Môn.

Dyma’r ail ymgynghoriad fel rhan o’r broses, ac fe fydd yn parhau tan 16 Rhagfyr.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r Grid Cenedlaethol yn gobeithio clywed opsiynau am ba lwybrau y dylai’r peilonau gael eu hadeiladu ar yr ynys.

Ond, mae ymgyrchwyr lleol yn credu nad yw’r Grid Cenedlaethol wedi ymgynghori’n ddigonol nac ystyried barn pobol Ynys Môn wrth fwrw ymlaen â’r cynlluniau sydd wedi bod ar y gweill ers 2012.

“Mae’r Grid Cenedlaethol yn gwneud y broses ymgynghori yn destun gwawd mewn ymgais i dwyllo rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn Llundain,” meddai Dafydd Idriswyn Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Unllais Cymru Môn.

‘Ticio bocsys’

Mae’r mudiad Unllais Cymru Môn wedi bod yn galw ar y Grid i gefnu ar eu cynlluniau i godi’r peilonau, gan ffafrio’r cynllun i adeiladu ceblau tanfor rhwng yr ynys â Glannau Mersi fyddai’n trosglwyddo trydan o brosiectau ynni’r ynys.

Ond mae’r Grid Cenedlaethol wedi dweud eu bod yn ffafrio peilonau yn hytrach na cheblau tanfor gan ei fod yn rhatach ac yn llai tebygol o achosi problemau technegol trafferthus.

Esboniodd Dafydd Idriswyn Roberts am yr effaith ariannol fyddai’r peilonau yn ei adael wrth ddibrisio gwerth eiddo, amaethu, twristiaeth, iechyd a lles.

Fe ddywedodd fod y cyfnod hwn o ailymgynghoriad yn ffordd i “dicio bocsys yn y ddogfen gynllunio yn unig.”

Fe wnaeth Andrea Leadsom, Gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth Prydain, gydnabod ym mis Gorffennaf eleni y dylai’r Grid ystyried barn pobol Ynys Môn yn deg yn yr achos hwn.

Fe ddywedodd, “fel rhan o’r broses gynllunio, dylai’r Grid Cenedlaethol arddangos ei fod wedi ymgysylltu’n gywir â’r rhanddeiliaid, ac wedi ystyried y pryderon.”

‘Adleisio Tryweryn’

 

“A ninnau’n cofio Tryweryn, onid eironi yw hi ein bod yn parhau i gwffio dros ein cymunedau gwledig tlawd wrth wrthsefyll cyfalafiaeth ddinesig,” meddai Dafydd Idriswyn Roberts.

“Yr un yw’r dadleuon ers Capel Celyn ynglŷn â gorfodi aberth i arbed arian i eraill yn y Deyrnas Gyfunol. Nid yw hwn yn teilyngu’r enw ‘ymgynghoriad’ gan iddynt anwybyddu barn y trigolion lleol byth ers cyrraedd yr ynys yn 2012.”

Fe fydd y cyfnod ymgynghori yn parhau tan Rhagfyr 16, gyda mwy na phymtheg digwyddiad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar draws Ynys Môn a Gwynedd yn ystod y cyfnod hwnnw.