Bydd brand llaeth newydd ar werth am y tro cyntaf heddiw ac mae cwmni archfarchnad Morrisons wedi addo y bydd yn talu 23c, neu 10c y litr, o bob potel pedwar peint i ffermwyr llaeth.

Bydd y brand, Morrisons Milk for Farmers, sy’n £1.12 am bedwar peint yn costio tipyn yn fwy na llaeth arferol yr archfarchnad, 89c am yr un faint.

Er hyn, mae Morrisons yn gweld gwerth yn ei werthu, wrth i arolwg diweddar gan gwmni ymchwilio i’r farchnad, Mintel, ddangos bod tua hanner o siopwyr yn fodlon talu mwy am eu llaeth er mwyn cefnogi ffermwyr llaeth.

“Pan gawson nhw eu harolygu, roedd llawer o gwsmeriaid wedi dweud wrthym ni eu bod yn barod i dalu mwy am eu llaeth i gefnogi ffermwyr llaeth Prydeinig a bydd cyfle iddyn nhw wneud yn union hynny,” meddai Martyn Jones, cyfarwyddwr gwasanaethau corfforaethol Morrisons.

“Byddwn yn rhoi ein cefnogaeth lawn i Milk for Farmers a bydd y gwerthiant yn dangos p’un a yw ein cwsmeriaid yn ein harchfarchnadoedd yn barod i dalu mwy.”

Caws ar werth hefyd

Mae archfarchnadoedd Morrisons hefyd wedi dechrau gwerthu caws Morrisons Milk for Farmers Cheddar Cheese lle fydd 34c o bob pecyn sy’n cael ei werthu yn mynd yn syth yn ôl i’r ffermwyr a wnaeth ddarparu’r llaeth i wneud y caws.

Mae’r caws ar werth am £2.52 y pecyn (350g) neu mae dau becyn ar werth am bris arbennig o £4.

Yn rhyngwladol, mae prisiau llaeth yn is oherwydd bod gormod o laeth yn cael ei gynhyrchu ar draws y byd.

‘Penderfyniad moesol’

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cam gan Morrisons i greu brand llaeth newydd i helpu ffermwyr.

Dywedodd cadeirydd newydd pwyllgor llaeth yr undeb Rhydian Owen: “Mae’r cwymp eithriadol ym mhris llaeth yn ddiweddar wedi achosi pwysau anferth ar ein ffermydd llaeth.

“Dwi’n gobeithio bydd cwsmeriaid yn cefnogi’r brand newydd a bydd hefyd yn caniatáu i’r cyhoedd wneud penderfyniad moesol am eu dewis o laeth”

“Gan fod dros  80% o laeth sy’n cael ei brosesu yng Nghymru yn mynd i gynhyrchu caws, mae’n bwysig cofio bod ffermwyr Cymru yn cael eu heffeithio gan nid yn unig prisiau llaeth ond hefyd prisiau cynhyrchion eraill llaeth.”