Carwyn Jones (Llun{ Cynulliad Cymru)
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y byddai “wrth ei fodd” pe bai’n bosib i ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Ond fe rybuddiodd Carwyn Jones fod yna lawer o broblemau technegol ac ystyriaethau ariannol cyn gallu dweud y byddai modd gwneud hynny.

Wrth siarad mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth neithiwr, fe gadarnhaodd fod yna weithgor ar hyn o bryd yn edrych ar lwybr yr hen lein i weld faint o waith oedd ei angen.

Pontydd wedi’u dymchwel

Roedd hen lwybr y rheilffordd wedi’i golli mewn rhai mannau a rhai o’r pontydd wedi eu dymchwel, meddai Carwyn Jones.

Roedd cwestiynau hefyd ynglŷn â pherchnogaeth rhannau o’r rheilffordd.

Ar ôl yr ymchwiliad technegol, meddai, fe fyddai’n rhaid ystyried cost ail-agor a’r gobeithion masnachol ar gyfer y rheilffordd.

Brwd

Fe ddywedodd Carwyn Jones ei fod yn frwd tros reilffyrdd ei hun ac y byddai’n falch iawn pe bai modd ailagor y lein a oedd wedi ei chau yn 1964.

Y trueni, meddai, oedd fod rhannau wedi bod ar agor ar gyfer diwydiant tan y 70au – roedd yn cofio trenau llaeth o’r ardal yn mynd trwy ei orsaf leol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan Mike Walker, Cadeirydd Traws Link Cymru, y mudiad sy’n ymgyrchu i ailagor y lein.

Roedd yn cynnal y pumed yn y gyfres o’i gyfarfodydd gweld-y-bobol, ‘Cyfarfod Carwyn’.