Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am dywydd eithafol yn ystod y dydd yng Nghymru heddiw.
Fe fydd Cymru gyfan yn cael ei heffeithio, gyda’r rhybudd yn weithredol o 12:30yp hyd at hanner nos heno.
Mae’r rhybudd yn nodi y gall nifer o ardaloedd osgoi’r glaw trwm, ond fe fydd rhannau eraill yn debygol o gael cawodydd trymion a stormus.
Gallai hyn arwain at lifogydd dros dro ar wyneb y ddaear, gan amharu rywfaint ar drafnidiaeth.
“Bydd ardal o wasgedd isel yn symud yn araf ar draws rhannau deheuol o Brydain yn ystod y dydd gan ddod ag aer ansefydlog a’r posibilrwydd o gawodydd stormus,” yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
“Bydd y gwyntoedd ysgafn yn golygu y bydd y cawodydd yn araf yn symud ac yn ddwys mewn rhai ardaloedd.”
Mae posibilrwydd y gall 15mm neu’n fwy o law ddisgyn mewn llai nag awr heddiw.