Discover the Diff, Caerdydd
Mae’r cyfnod pleidleisio bellach wedi agor i ddewis y safle a fydd yn derbyn gwerth £120,000 fel rhan o brosiect Tyfu’n Wyllt.

Mae tri safle wedi’u dewis ar restr fer Tyfu’n Wyllt, sef URBANBuzzz, Cwmbrân, Discover the Diff, Caerdydd ac O Ffwrnes i Flodau, Glyn Ebwy.

Bwriad y prosiect yw annog  pobol i ofalu am y natur o’u cwmpas – a throi llecynnau yn ardaloedd hardd er lles bywyd gwyllt.

Bydd y cyfnod pleidleisio yn parhau ar agor tan 1 Tachwedd, ac fe fydd y gwaith ar y safle buddugol yn cael ei gwblhau erbyn haf 2016.

Er lles cymunedau

Mae prosiect Tyfu’n Wyllt yn rhan  o ymgyrch ehangach ledled Prydain i ysbrydoli 30 miliwn o bobol i weithredu’n uniongyrchol er lles eu cymunedau a chefnogi blodau a phlanhigion gwyllt.

Caiff Tyfu’n Wyllt Cymru ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr, ac mae’n cael ei arwain gan Erddi Botaneg Brenhinol Kew.

“Mae pob un o’r prosiectau hyn yn cynnig cyfle i drawsnewid llecynnau trefol i bobol leol a thrigolion fel ei gilydd trwy ddefnyddio blodau gwyllt,” meddai John Roser, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa’r Loteri Fawr.

“Dymunwn y gorau i’r prosiectau ar y rhestr fer ac edrychwn ymlaen at weld pa brosiect bynnag a ddewisir gan y cyhoedd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ei gymuned leol.”

Fe groesawodd Maria Golightly, Rheolydd Partneriaeth Cymru ar gyfer Tyfu’n Wyllt y prosiect hefyd gan ddweud, “rydym am i bawb bleidleisio dros eu hoff brosiect er mwyn rhoi anadl einioes newydd i lecynnau gyda harddwch, lliw a bywyd gwyllt.

“Bydd y tri phrosiect yn cynnig sawl ffordd i bobol leol ddysgu am flodau gwyllt a’u mwynhau, a byddant yn darparu manteision o ran iechyd corfforol a meddyliol pawb dan sylw,” ychwanegodd.

Manylion pleidleisio

Gall pobol yng Nghymru bleidleisio trwy fynd ar-lein neu trwy ffonio un o’r rhifau isod:

URBANBuzzz, Cwmbrân (0808 228 7201)

Discover the Diff, Caerdydd (0808 228 7202)

O Ffwrnes i Flodau, Glyn Ebwy (0808 228 7203)