Dydi Llywodraeth Cymru ddim yn gwybod ym mha ardal o’r wlad y mae buwch yn diodde’ o’r afiechyd BSE wedi’i chanfod, a hynny am mai Llywodraeth Prydain sy’n delio gyda’r mater.

Er hynny, mae llefarydd ar ran y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd wedi dweud wrth golwg360 mai’r cyngor gorau i ffermwyr a’r cyhoedd ydyw i “beidio â phoeni”.

A’r un yw’r cyngor gan undebau’r ffermwyr yng Nghymru.

“Ers i achosion o BSE gyrraedd uchafbwynt o dros 37,000 yn 1992, mae rhaglen drylwyr o fonitro wedi bron a’i ddileu yn gyfan gwbl,” meddai llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wrth golwg360.

“Mae achosion wedi cwympo i un neu ddau’r flwyddyn, sydd ond yn naturiol yn ystod camau diweddara’r rhaglen ddileu lwyddiannus.

“Mae’r rheolau llym sydd ar waith yn golygu bod achosion prin fel hyn ddim yn beryg o gwbwl.”