Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael ei ddewis fel un o’r pedair ardal yng Nghymru a Lloegr fydd yn cael buddsoddiad gwerth £500 miliwn gan y Grid Cenedlaethol i osod ceblau dan y ddaear yn lle peilonau.
Bydd y ceblau yn cael eu gosod rhwng Portmeirion a Llyn Trawsfynydd.
Mae’r parciau wedi cael eu dewis o blith wyth parc cenedlaethol ar sail pa linellau pŵer sy’n cael eu hystyried i gael yr effaith mwyaf ar dirweddau dan warchodaeth.
Doedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog heb gael blaenoriaeth am gyfran o’r £500 miliwn.
‘Penderfyniadau anodd’
Dywedodd yr amgylcheddwr, Chris Baines, cadeirydd y grŵp rhanddeiliaid a gynghorodd y Grid Cenedlaethol ar ba barciau cenedlaethol i flaenoriaethu, ei bod wedi gorfod gwneud “penderfyniadau anodd”.
“Mae lleihau effaith weledol peilonau a llinellau pŵer yn ein tirweddau mwyaf gwerthfawr yn ddymunol iawn, ond mae hefyd yn ddrud iawn ac yn gymhleth yn dechnegol, felly rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd,” meddai.
“Bydd y lleoliadau ar ein rhestr fer wreiddiol yn parhau i gael eu hystyried am waith yn y dyfodol er mwyn lleihau effaith weledol llinellau pŵer y Grid Cenedlaethol o dan y prosiect i ddarparu ar gyfer effaith weledol.”
Bydd y Grid Cenedlaethol hefyd yn defnyddio £24 miliwn o’r £500 miliwn ar gyfer prosiectau mwy lleol i wella golygfeydd tirwedd a lleihau’r effaith weledol o seilwaith trydan mewn parciau cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Mae hwn yn brosiect unigryw, ac mae’n gyfle i warchod a datblygu’r harddwch naturiol, y bywyd gwyllt a’r dreftadaeth ddiwylliannol ac amgylcheddol yr ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol,” meddai Hector Pearson o’r Grid Cenedlaethol.
Y pedair ardal a fydd yn elwa o’r cynllun:
Parc Cenedlaethol Eryri, ger Porthmadog.
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn Dorset
Parc Cenedlaethol New Forest
Parc Cenedlaethol y Peak District