Gareth Vaughan (ar y chwith) yn cael ei longyfarch gan lywydd yr undeb, Glyn Roberts
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi anrhydeddu un o’i chyn-lywyddion drwy ei benodi’n aelod am oes.

Mae Gareth Vaughan, llywydd yr undeb rhwng 2003 a 2011, yn derbyn yr anrhydedd fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad i amaethyddiaeth Cymru ar hyd y blynyddoedd.

Yn enedigol o Lanidloes, mae’r ffermwr blaenllaw o ardal Dolfor, ger y Drenewydd, wedi dal amryw o swyddi eraill yn yr undeb ac wedi cynrychioli sir Drefaldwyn ar wahanol bwyllgorau amaethyddol.

“Mae Gareth wedi bod yn bresenoldeb aruthrol o fewn yr Undeb, ac wedi’n cynrychioli ni efo urddas a phenderfyniad mewn cyfarfodydd preifat efo gweinidogion a swyddogion y llywodraeth, ac mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru yn ystod ei dymor yn ei swydd,” meddai Glyn Roberts, llywydd presennol yr Undeb.