Modrwy aur o'r Oesoedd Canol
Mae modrwyau aur ac arian y credir eu bod yn dyddio o’r Oesoedd Canol  a’r cyfnod modern cynnar wedi cael eu datgan yn drysorau heddiw.

Daeth y cyhoeddiad gan Grwner Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ar yr un diwrnod ag y cafodd darnau arian Llychlynnaidd sydd tua 1,000 o flynyddoedd oed a gafodd eu darganfod ger Caernarfon hefyd eu datgan yn drysorau.

Modrwyau

Cafodd modrwy o’r 15fed neu’r 16eg ganrif ei darganfod ar 11 Mawrth 2014 yn Hwlffordd, Sir Benfro, gan Alun Jones wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel.  Mae sêl ar y fodrwy yn awgrymu mai masnachwr oedd ei pherchen ac mae croes heb ben arni sy’n gysylltiedig â Sant Antwn.

Cafodd modrwy eurwaith arian grefyddol o ddiwedd y 15fed ganrif ei darganfod ar 12 Hydref 2013 gan Phil Jenkins yng Nghaeriw, Sir Benfro.

Cafodd modrwy aur o’r cyfnod modern cynnar hefyd ei darganfod gan K Lunn ar 28 Tachwedd 2013 wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel yn Hundleton, Sir Benfro. Modrwy alar yw hon, gyda phenglog ar y tu allan.

Dywedodd Amgueddfa Cymru y byddai ganddo ddiddordeb mewn prynu’r modrwyau os oes modd dod o hyd i’r arian i wneud hynny.

Modrwy alar

Cafodd modrwy alar aur o’r cyfnod modern cynnar ei darganfod yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin, gan D Raven wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ym mis Mai 2013. Mae gan y fodrwy hon benglog ar y tu allan hefyd.

Bydd Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn caffael y fodrwy hon.

Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil, Adran Hanes ac Archaeoleg, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: “Mae’r darganfyddiadau hyn yn cynnig gwybodaeth newydd am addurniadau personol o wahanol gyfnodau yng Nghymru.

“Mae’r sêl fodrwy gyda chroes heb ben yn dod o’r un cyfnod â modrwyau eraill gyda’r un symbol, sy’n cyd-fynd â phoblogrwydd Sant Antwn yng Nghymru a Lloegr y 15fed a’r 16eg ganrif.”

Teyrngarwch personol

Ychwanegodd: “Mae’r fodrwy 15fed ganrif o Gaerhiw yn enghraifft dda o deyrngarwch personol ar fodrwy bys.

“Mae’r penglogau ar y modrwyau o Hundleton a Chydweli yn fotiff sydd i’w weld ar y modrwyau galar cynharaf, yn dyddio o’r 15fed ganrif, ac yn parhau’n boblogaidd tan y 17eg ganrif. Gan mai modrwyon coffa ydynt, maent yn fwy diweddar na dyddiadau’r marwolaethau, ond mae’n debyg eu bod wedi’u hengrafu o fewn cyfnod byr.”