Mae mwy na 5,000 o frechiadau moch daear i atal TB wedi’u dosbarthu yn yr ardal triniaeth ddwys yng ngorllewin Cymru dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Dyna a gyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, wrth i’r cyfnod brechu gyrraedd ei phedwaredd flwyddyn.

Dechreuodd y prosiect brechu yn 2010, ac mae’n rhedeg am bum mlynedd gan frechu moch daear yn yr ardal triniaeth ddwys yn unig.

Mae’r ardal hon wedi’i lleoli’n bennaf yng ngogledd Sir Benfro, ac mae’n cynnwys rhannau o Geredigion a Sir Gaerfyrddin hefyd lle honnir bod y clefyd TB ar ei waethaf mewn gwartheg.

Dewiswyd yr ardal hon, oherwydd dyma’r ardal y ceir “y nifer uchaf o achosion o TB yn Ewrop”, yn ôl y Dirprwy Weinidog.

‘Magu imiwnedd’

Amcan y prosiect yw “magu rhywfaint o imiwnedd ym moch daear yr ardal i TB gwartheg”, meddai Rebecca Evans.

Dylai hyn arwain at leihau’r posibilrwydd o drosglwyddo clefyd i wartheg yr ardal wedi hynny.

Eglurodd Rebecca Evans fod y gwaith brechu yn cael ei wneud mewn cylchoedd sy’n para pedair wythnos yr un.

Mae’r tair wythnos gyntaf yn golygu trafod â pherchennog y tir a gwneud y gwaith paratoi. Mae’r brechu’n digwydd yn yr wythnos olaf.

“Rydym yn sylweddoli y bydd yn rhaid aros blynyddoedd efallai cyn gweld manteision rhai o’n mesurau ychwanegol”, esboniodd y Dirprwy Weinidog.