Ffosil trosed y dinosor
Mae lle i gredu y gallai troed dinosor a gafodd ei darganfod ar draeth ger Penarth fod yn eiddo un o ddisgynyddion y Tyrannosaurus Rex.

Daeth y myfyriwr trydedd flwyddyn o Brifysgol Portsmouth, Sam Davies o hyd i’r gweddillion tra’n chwilio am ffosiliau ar draeth Larnog.

Daeth arbenigwyr i’r casgliad fod y gweddillion yn perthyn i’r un anifail ag y daethpwyd o hyd i’w benglog ar y traeth y llynedd.

Roedd y dinosor yn fersiwn fach o’r T-Rex.

Dywedodd Sam Davies: “Lwc llwyr oedd fy mod wedi dod o hyd iddo.

“Roedd yn eistedd ar ben craig fawr. Roedd yn amlwg o’r ffosil mai bysedd neu fysedd traed oedden nhw gan fod tri mewn rhes, ond y peth cyntaf ddaeth i feddwl oedd mai rhyw fath o blesiosor oedd e.”

Cafodd y myfyriwr ei annog gan ei diwtor i fynd i’r traeth gan ei fod yn adnabyddus am ffosiliau a’i glogwyni hynafol.

Dywedodd y Dr David Martill o Brifysgol Portsmouth: “Roedd amseru hyn yn hanfodol.

“Pe na bawn i wedi rhoi Sam ar y prosiect hwn, pe na bai e wedi bod yno bryd hynny, pe na bai’r syrthio oddi ar y clogwyn wedi digwydd, pe bai’r llanw wedi dod i mewn, yna ni fyddai Sam wedi dod o hyd iddo.”

Ychwanegodd fod y darganfyddiad yn tanlinellu pwysigrwydd chwilio am ffosiliau.

“Bydd y sampl yma’n ein helpu i gofnodi esblygiad traed dinosoriaid, yn enwedig wrth edrych ar nifer bysedd y traed a natur asgwrn y ffêr.”

Mae troed y deinosor wedi’i rhoi i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac mae gweddill y dinosor i’w weld yno tan ddiwedd y mis.