Mae ffermwr o Sir Gaerfyrddin yn honni bod lladd-dy wedi gwrthod cymryd wyn i’w lladd ganddo oherwydd ei fod wedi protestio o flaen archfarchnad.

Mae Gwyndaf Thomas o Lanybydder wedi bod yn mynd a’i wyn i’r lladd-dy lleol sydd yn cael ei redeg gan gwmni Dunbia ers 40 o flynyddoedd. Ond pan gysylltodd ei fab â’r cwmni yr wythnos hon, fe gafodd yr ateb nad oedd y cwmni eisiau ei gynnyrch, am y rheswm eu bod wedi bod yn rhan o brotest yn erbyn Tesco yn nhre’ Caerfyrddin.

“Dw i mewn sioc ein bod wedi cael ein gwrthod fel hyn,” meddai Gwyndaf Thomas wrth Golwg360.

“Roedd y mab wedi cysylltu gyda Dunbia i drefnu dyddiad i fynd ag wyn yno a chafodd ei wrthod. Y rheswm oedd eu bod nhw wedi gweld lluniau ar Facebook ohonom yn protestio o flaen Tesco Caerfyrddin.

“Roeddynt yn eitha’ insulting ar y ffôn, yn dweud ein bod wedi bod yn wirion i brotestio.

“Fferm deuluol yw hon,” meddai Gwyndaf Thomas wedyn, gan ychwanegu eu bod, ar gyfartaledd, yn mynd â thua 600 o wyn y flwyddyn at Dunbia ar hen safle lladd-dy Oriel Jones yn Llanybydder. “Mae’r ddau fab yn gweithio yma, ac mae’n amser caled i ffermwyr heb i hyn ddigwydd ar ben bob dim.

“Rydw i wedi bod yn mynd ag wyn yno yn rheolaidd ers 40 mlynedd, mae’n sioc enfawr.”

Mae Golwg360 wedi cysylltu gyda chwmni Dunbia i ofyn am sylw.