Morfil danheddog Orca
Mae morfil danheddog Orca (killer whale) wedi’i weld tair gwaith oddi ar arfordir Ceredigion yn ddiweddar.

Fe wnaeth cwmni Razorbill Seasafari, sy’n cynnal teithiau cwch oddi ar arfordir Sir Benfro roi gwybod i elusen Ymddiriedolaeth y Môr (Sea Trust) eu bod nhw wedi gweld cip o’r morfil dair gwaith.

Gwelwyd y morfil ger ardal Mwnt yn ne Ceredigion, ac mae cofnod ohono hefyd yn hela am bysgod ger aber afon Teifi.

‘Cyffrous’

“Mae hyn yn gyffrous”, meddai Hannah Harries, Swyddog Gwyddoniaeth ac Addysg yr elusen Ymddiriedolaeth y Môr, ond meddai wedyn fod gweld y morfil yn yr ardal yr adeg yma o’r flwyddyn “yn anarferol iawn”.

Mae morfil orca wedi’i weld ar arfordir Sir Benfro o’r blaen, ac mae’n bosib mai John Coe, morfil gwrywaidd sy’n teithio ar draws Môr Iwerddon yn ystod yr haf yw’r morfil hwn.

Byddai modd adnabod y morfil John Coe, am fod darn o’i asgell ar goll.

Ond, yn ôl Hannah Harries, mae gweld y morfil ddiwedd Gorffennaf yn anarferol, oherwydd byddai’n disgwyl gweld morfilod yn teithio’n bell i hela yn ystod mis Mai neu Fehefin fel arfer.

‘Cadw llygad’

Dywedodd Cliff Benson o elusen Ymddiriedolaeth y Môr wrth y BBC y gallai’r morfilod hyn ddod mor bell â “Norwy, Ynysoedd Shetland, Ynysoedd Heledd neu arfordir gorllewin Iwerddon. Hyd yn oed mor bell ag Ynysoedd Canaria.”

Mae’r elusen yn gofyn ar bawb i gadw llygad ar yr arfordir, ac i roi gwybod i Ymddiriedolaeth y Môr os welan nhw’r morfil yn y dŵr.