Y Sioe (Llun RWAS)
Dyw’r heddlu ddim yn ystyried fod dim amheus ynglŷn â marwolaeth dyn yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Fe fu’n rhaid cau un bloc o doiledau ger shediau’r gwartheg ddiwedd ddoe, diwrnod ola’r sioe.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys : “Cysylltwyd â’r heddlu gan aelod o’r cyhoedd ac fe gafodd corff dyn 39 oed ei ddarganfod.

“Oherwydd bydd yna post-mortem ni fedrwn ddweud beth oedd achos ei farwolaeth.”