Y Sioe Fawr yn Llanelwedd
Cafodd ffermwraig o Gei Conna yn Sir Y Fflint ei choroni yn Ffermwraig y Flwyddyn gan Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr yn Sioe Frenhinol Llanelwedd heddiw.

Mae Ceri Ratcliffe yn rhedeg fferm yn magu defaid a gwartheg ar 180 o aceri, gyda’i gwr Andy a’u dau o blant bach.

‘Ymrwymiad’

Dywedodd Dirprwy Llywydd NFU Cymru, John Davies fod y safon eleni wedi bod yn uchel iawn:  “Roedd y tair ar y rhestr fer o safon uchel iawn. Roedd gan y tair un peth yn gyffredin – eu hymrwymiad llwyr i ffermio ac i’r diwydiant. Mae Ceri yn enghraifft berffaith i deitl Ffermwraig y Flwyddyn yng Nghymru.”

‘Llysgennad da iawn’

Dywedodd Pat Ashman ar ran Cymdeithas Adeiladu’r Principality sy’n noddi’r gystadleuaeth: “Mae’n bleser i fod yn rhan o’r panel beirniadu i gystadleuaeth mor gyffrous.

“Wrth ddewis y rhestr fer, fe roedd y beirniad yn edrych ar y meini prawf a fyddai’n cynnwys y  modd y maent yn cyfrannu at wneud eu fferm yn uned economaidd lwyddiannus a’u cyfraniad wrth wella rôl merched yn y byd ffermio.

“Cafodd Ceri ei henwebu gan ei mam yng nghyfraith, a oedd yn falch ohoni ac mi oedd y ffaith fod Ceri wedi cyrraedd pob un o’i meini prawf wedi rhagori. Fe fydd hi’n gwneud llysgennad da iawn i ferched eraill sy’n ffermio yng Nghymru.”

Derbyniodd yr enillydd bowlen wydr wedi’i chreu o risial Cymreig ynghyd â £500, tra bod y ddwy ffermwraig arall ar y rhestr fer – Joanna Rees o Langadog, Sir Gaerfyrddin a Nerys Edwards o Langyndeyrn, Sir Gaerfyrddin – wedi derbyn £100 yr un.