Morgan Parry
Lansiodd Sefydliad Morgan Parry ei wobr flynyddol gyntaf i bobl ifanc, mewn digwyddiad  yn y Sioe Frenhinol,  i ddathlu bywyd yr amgylcheddwr blaenllaw a fu farw’r llynedd.

Bu farw Morgan Parry yn 56 oed ym mis Ionawr 2014, ar ôl brwydro â salwch difrifol am chwe mis. Bu’n ffigwr blaenllaw yn y mudiad amgylcheddol yng Nghymru am fwy na 30 o flynyddoedd, gan ymgyrchu dros CND a Chyfeillion y Ddaear ymysg eraill.

Aeth ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sefydlu WWF Cymru a chadeirio Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Cynnal Cymru.  Gadawodd Morgan Parry wraig a dau blentyn.

Cofio Morgan Parry

Yn y Sioe Frenhinol heddiw, bu cyfeillion a chydweithwyr yn cofio gwaith Morgan Parry a lansio cystadleuaeth ysgrifennu flynyddol newydd i bobl ifanc 16-19 oed.

Mae’r Sefydliad yn gwahodd pobl ifanc i ysgrifennu traethawd am ddiogelu Cymru i genedlaethau’r dyfodol yn y flwyddyn 2050. Bydd yr enillydd yn cael £500 i ddatblygu’r syniadau a’r camau gweithredu a ddisgrifir yn y traethawd.

‘Breuddwyd yn fyw o hyd’

Dywedodd Jane Davidson, cyn Weinidog dros yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd a Chadeirydd Sefydliad Morgan Parry: “Bu farw Morgan yn druenus o ifanc, ond mae ei freuddwyd am fyd lle rydym yn troedio’n ysgafn ar y ddaear yn fyw o hyd.

“Ein gobaith yw y bydd y wobr hon yn deyrnged i’w waith ac yn gwneud gwahaniaeth ymarferol trwy gefnogi pobl ifanc sy’n rhannu’r brwdfrydedd hwnnw dros Gymru gynaliadwy.

“Os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod syniad gwych am greu dyfodol gwell, gofynnwn ichi gymryd rhan, rhannu’ch stori a’i gwireddu.”

‘Etifeddiaeth wych’

Ychwanegodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a siaradodd yn y digwyddiad: “Bûm yn ddigon ffodus i gael Morgan yn gyfaill ac yn gydweithiwr imi. Cyfrannodd mewn cynifer o ffyrdd, yn broffesiynol ac yn y ffordd yr oedd yn byw yn unol â’i gredoau.

“Roedd yn hyrwyddwr byd natur a’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Roedd ei farwolaeth yn golled enfawr i’r mudiad amgylcheddol yng Nghymru, ond mae gwaith y Sefydliad a’r wobr hon yn rhan o etifeddiaeth wych rydyn ni’n ei dathlu heddiw.”

Ar ôl lansio’r gystadleuaeth gyntaf hon, am draethodau yn Saesneg, yn yr un modd bydd gwobr Gymraeg yn cael ei chyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Gellir gweld manylion llawn y wobr ar wefan Sefydliad Morgan Parry:www.morganparry.cymru