Rebecca Evans
Wrth i’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddechrau heddiw, mae Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Rebecca Evans wedi mynegi ei phryderon am ddyfodol y diwydiant amaeth yng Nghymru petai bleidlais o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm arfaethedig.

Gyda thaliadau o dan CAP yn werth £240 miliwn i ffermwyr bob blwyddyn, dywed y Dirprwy Weinidog y byddai dod a’r arian i ben heb sicrwydd y byddai Llywodraeth y DU yn talu’r un lefel yn ei le, yn hynod niweidiol i’r diwydiant, meddai.

Dywedodd Rebecca Evans: “Rydw i wedi bod yn dilyn y trafodaethau am aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn y cyfryngau ac wedi cael fy synnu gan nifer y sylwebwyr sy’n credu y byddai’r diwydiant amaeth yn gweld gostyngiad mewn biwrocratiaeth ac y byddai’n parhau i dderbyn yr un lefel o gymorth ariannol petai ni’n gadael yr UE.

“Mewn gwirionedd, fe fyddai gadael yr UE, a’r effaith y byddai hynny, yn ddiamau, yn ei gael ar CAP, yn drychinebus i amaeth yng Nghymru.”

Wythnos diwethaf roedd y Dirprwy Weinidog wedi lansio Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 (RDG). Mae’r rhaglen £900m yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd ac fe gyhoeddodd  Rebecca Evans y byddai nifer o gynlluniau newydd yn cael eu lansio yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol.

“Mae’r rhaglen yma yn gyfle gwych i gefnogi cefn gwlad Cymru ac yn dystiolaeth bellach o’r buddion a ddaw yn sgil aelodaeth o’r UE.

“Mae’r RDG blaenorol eisoes wedi buddsoddi bron i £800 miliwn yng nghymunedau a busnesau cefn gwlad Cymru ac rwy’n benderfynol o wneud y mwyaf o’r cyfleoedd yma.

“Petai ni’n gadael yr UE fe fyddai’n hymdrechion i gefnogi ein ffermwyr yn cael ei niweidio’n sylweddol.”