Mae pobol sy’n cadw dofednod yng Nghymru yn cael eu hannog i gadw llygad am arwyddion o’r ffliw adar wrth i wythnos y Sioe Frenhinol nesáu.

Fe wnaeth y firws daro fferm ddofednod Goosnargh yn Swydd Gaerhirfryn yr wythnos diwethaf, ac mae Llywodraeth Cymru yn galw ar berchnogion dofednod yng Nghymru i fod yn wyliadwrus am unrhyw ddatblygiadau, ac i wirio eu hadar cyn cystadlu yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Mae’r Llywodraeth yn galw ar bobol i gysylltu â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn syth os byddan nhw’n gweld unrhyw arwyddion o’r ffliw ar y dodfednod.

Arwyddion o’r ffliw

Mae Prif Swyddog Milfeddygol y DU wedi cadarnhau mai ffliw adar pathogenaidd uchel oedd y feirws a darodd y fferm yn Swydd Gaerhirfryn.

Bellach mae’r holl adar ar y fferm honno yn cael eu difa, ac mae rheolaeth lem wedi’i osod ar y symudiadau o fewn 10km i’r fferm.

Er bod y ffliw yn gallu effeithio ar bobol, mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi dweud fod y risg yn isel iawn ac yn anghyffredin mewn pobol.

Mae’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, yn pwysleisio y dylai pobol sy’n cadw dodfednod archwilio eu hadar yn fanwl am unrhyw arwydd o’r firws, ac “os oes gennych yr amheuon lleiaf, rhowch wybod i’r awdurdodau ar unwaith”.

Yn ôl Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, mae arwyddion o’r ffliw mewn adar yn cynnwys problemau anadlu, dolur rhydd, dodwy wyau llai, colli awydd am fwyd, a rhannau o’r gwddf yn troi’n las.

Y Sioe Fawr

Wrth i wythnos y Sioe Fawr nesáu mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle.

Mae’r Gymdeithas wrthi’n cysylltu â phawb a fydd yn dangos adar yn y Sioe yr wythnos nesaf i’w rhybuddio am y datblygiadau.

Maen nhw hefyd yn cynnal archwiliadau, er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw adar o’r ardal sydd o dan gyfyngiadau, neu sy’n dangos arwyddion clinigol o’r clefyd, yn cyrraedd maes y Sioe.

“Mae unrhyw risg i fioddiogelwch yn fater o’r pwys mwyaf i’r gymdeithas”, meddai Aled Jones, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

“Byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion er mwyn monitro’r sefyllfa’n ofalus”, ychwanegodd.