Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am wyntoedd cryfion a glaw trwm ar draws y DU y prynhawn ma a dros nos.
Fe fydd y gwynt yn hyrddio tua 60-70mya mewn mannau arfordirol, meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
Bydd tonnau mawr hefyd yn effeithio rhai llefydd ar hyd yr arfordir yn y gorllewin a’r de ar adegau.
Gall y gwyntoedd annhymhorol effeithio ar drafnidiaeth a gweithgareddau awyr agored, meddai’r llefarydd, ac fe all achosi difrod i goed.
Mae’r rhybudd am wyntoedd cryfion yn ardaloedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam.
Mae disgwyl glaw trwm gyda phosibilrwydd o lifogydd yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.
Bydd y rhybudd yn parhau mewn grym tan nos Fawrth ond mae disgwyl i dywydd cynhesach ledaenu ar draws Cymru o ddydd Mercher.