Technoleg ynni mor Minesto
Mae cwmni ynni morwrol Minesto o Sweden yn symud ei bencadlys i Ynys Môn fel rhan o gynllun gwerth £25 miliwn i greu prosiect ynni yng Nghaergybi.

Bydd y cwmni’n creu hyd at 30 o swyddi ar unwaith, a bydd cannoedd yn rhagor yn cael eu creu maes o law.

Mae’n rhan o gynllun ‘Gwyrdd Dwfn’ a fydd yn gweld dyfais yn cael ei chynllunio, ei gwneuthuro a’i phrofi er mwyn cynhyrchu trydan o gerrynt y môr ar gyfer miloedd o gartrefi ar yr ynys.

Gall y math o dechnoleg y mae’r cwmni am ei chreu weithio o leiaf 15 metr o dan wyneb y dŵr, lle na all technoleg arall weithio mor gost-effeithiol oherwydd ei gallu unigryw i weithio mewn mannau buander isel.

Mae disgwyl i’r ddyfais gael ei gosod yn Ynys Môn yn haf 2017 a phe bai’n llwyddiannus, fe allai rhagor gael eu creu i’w hallforio o amgylch y byd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynorthwyo cwmni Minesto gyda’i astudiaethau dichonolrwydd ers sawl blwyddyn.

Penderfyniad strategol

Yn dilyn y cyhoeddiad am symud ei bencadlys i Ynys Môn, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Rwy wrth fy modd fod ein buddsoddiad wedi arwain y ffordd i Minesto sefydlu ei bencadlys yn y DU yng ngogledd Cymru.

“Fe fydd yn creu swyddi o safon uchel mewn sector pwysig sy’n prysur ehangu yng Nghymru.”

Ychwanegodd fod y prosiect yn “enghraifft wych o atebion masnachol yn cael eu datblygu yng Nghymru i helpu i yrru ein potensial i arwain yn fyd-eang ar y farchnad ynni morwrol”.

‘Arweinydd byd-eang’

Dywedodd prif weithredwr Minesto, Anders Jansson: “Mae sefydlu pencadlys Minesto yn y DU yng ngogledd Cymru yn benderfyniad strategol all wneud Cymru’n arweinydd byd-eang o fewn ynni morwrol.”

Ychwanegodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt: “Yn ystod y bum mlynedd nesaf, bydd £150 miliwn o arian Ewrop yn cael ei fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, gyda ffocws arbennig ar ynni morwrol yng ngorllewin a gogledd Cymru.

“Mae’r buddsoddiad yn dangos pa mor hanfodol yw arian Ewrop i greu swyddi a thwf economaidd ledled Cymru.”

Bydd modd i’r cyhoedd gyfarfod â staff Minesto a rhoi adborth ar y cynllun yn Neuadd y Dref Caergybi nos Iau am 8 o’r gloch.