Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant
Fe fydd Cyngor Gwynedd yn derbyn grant o £55,000 gan Lywodraeth Cymru i warchod pentref Fairbourne ger y Bermo rhag llifogydd.

Mae bygythiad o lifogydd posib o’r llanw, afonydd a dŵr daear yn wynebu’r pentref – sydd wedi ei chofnodi fel pentref i gadw llygad arno dros y 40 mlynedd nesaf gan y Cynllun Rheoli Traethlin.

Mae tystiolaeth wedi awgrymu y byddai’n anghynaladwy i wario mwy ar amddiffyn y gymuned.

Ond mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant wedi cytuno i ddarparu’r grant o £55,000 i Gyngor Gwynedd fel gall y cyngor barhau i drafod ffyrdd o’i reoli’r bygythiadau naturiol.

Ymarferol

“Yn anffodus, mewn rhai ardaloedd, nid yw’n ymarferol yn ariannol i wario mwy a mwy ar amddiffynfeydd rhag llifogydd, neu, yn hollbwysig, yn ddiogel i’r cymunedau hynny yn yr hirdymor,” meddai Carl Sargeant.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu’r gymuned yn Fairbourne i baratoi ar gyfer y broses newid ac addasu iddi”.

Ychwanegodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: “Dros y degawdau nesaf, byddwn yn gweithio gyda’r gymuned leol i ddod o hyd i ffyrdd y gall y gymuned hon fyw gydag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, sy’n dod yn fwyfwy amlwg ar hyd y darn hwn o arfordir.”