Llifogydd yn Y Rhyl, 2013
Chwarter canrif  ers llifogydd mawr Tywyn, ger Abergele yn Sir Conwy, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio ei ymrwymiad i sicrhau bod cymunedau Cymru yn cael amddiffynfeydd effeithiol rhag llifogydd arfordirol.

Ar 26 Chwefror, 1990, cafodd dros 5,000 o bobl eu gorfodi i adael eu cartrefi pan wnaeth llanw uchel a thywydd eithafol ddifrodi amddiffynfeydd môr ac achosi llifogydd yn yr ardal.

Heddiw, mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, wedi talu teyrnged i gadernid y gymuned leol yn Nhywyn 25 mlynedd yn ôl, a dywedodd fod y digwyddiad wedi dangos pa mor hawdd all newid yn yr hinsawdd effeithio arfordir Cymru.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £300 miliwn tuag at amddiffyn yr arfordir yn ystod y Llywodraeth hon, a bod £10 miliwn wedi cael ei roi i helpu i atgyweirio a chryfhau’r amddiffynfeydd arfordirol yn dilyn y stormydd mawr  y llynedd.

Meddai Carl Sargeant: “Mae’r llifogydd arfordirol yn ddiweddar, gan gynnwys Y Rhyl ym mis Rhagfyr 2013 wedi dangos sut y gall tywydd gwael gael effaith enfawr ar ein cymunedau.

“Rydym yn cydnabod yr heriau hyn, a dyna pam fod rheoli llifogydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Yn ogystal â hyn, rwy wedi cyhoeddi pedwar Cynllun Rheoli Traethlin ar gyfer Cymru, a fydd yn ein helpu i gynllunio ar gyfer addasu arfordirol a newid yn yr hinsawdd.”