Llwybr ar gau ger fferm yn Upham, Sir Hampshire
Mae tri o bobl wedi cael profion am ffliw’r adar wrth i’r gwaith ddechrau o ddifa 10,000 o ddofednod yn dilyn achos o’r clefyd ar fferm yn Sir Hampshire.

Dywedodd yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) nad oedd yr achos ym mhentref Upham yn un difrifol iawn.

Deellir bod tri o bobl, gan gynnwys un o swyddogion Defra, wedi cael profion am ffliw’r adar ar ôl cael symptomau ond bod y profion yn dangos nad oedden nhw wedi cael eu heintio.

Fe fydd yr adar ar y fferm sy’n bridio ieir yn cael eu difa er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu.

Yn ôl ffynhonnell, fe gadarnhawyd bod gan y dofednod ffliw’r adar ddydd Gwener ar ôl i nifer o’r ieir farw.

Mae swyddogion wedi dweud bod y straen H7 yn “llawer llai difrifol” na’r straen H5N8 a gafodd ei ddarganfod ar fferm hwyaid yn Swydd Efrog ym mis Tachwedd.

Dywed Defra nad oes cysylltiad rhwng y ddau achos tra bod Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dweud bod y risg i’r cyhoedd yn isel iawn.