Mae ’na bryder am ddiogelwch swyddi bore ma ar ôl i gynllun gwerth £28 biliwn i uno BAE Systems ac EADS gael ei sgrapio ddoe.

Roedd ’na gryn wrthwynebiad i’r cynllun ac mae’n debyg bod llywodraeth Ffrainc, yr Almaen a Phrydain wedi methu dod i gytundeb ynglŷn â faint o gyfran y dylai’r llywodraethau ei gael yn y cwmni unedig.

Mae BAE Systems yn cyflogi 600 o weithwyr yng Nglasgoed, Sir Fynwy, tra bod EADS, sy’n berchen Airbus, yn cyflogi 6,000 o weithwyr yn ei ffatri ym Mrychdyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond  ddoe bod BAE Systems  yn wynebu “heriau” ac fe rybuddiodd bod angen i’r cwmni “ddatblygu”.

Ond dywedodd prif weithredwr BAE, Ian King, er ei fod yn siomedig yn dilyn y penderfyniad mae’n parhau’n hyderus am ddyfodol y cwmni.

Roedd undebau a’r blaid Lafur wedi dadlau y byddai uno’r ddau gwmni yn creu cwmni cryfach gan sicrhau swyddi yn y tymor hir.

Roedd BAE wedi gweld gostyngiad o 14% mewn gwerthiant y llynedd yn sgil toriadau i wariant amddiffyn yn y DU a’r UDA.

Mae undeb Unite bellach yn galw ar Lywodraeth San Steffan i gryfhau ei gyfran yn y cwmni er mwyn diogelu swyddi a hybu cynhyrchiant.