Fe fydd Marks & Spencer yn creu hyd at 1,000 o swyddi dros y flwyddyn nesaf o dan gynlluniau newydd i hybu eu gwasanaethau ar-lein.

Fe fydd y swyddi newydd yn cael eu lleoli yng nghanolfan ddosbarthu’r cwmni yn Castle Donington, yn Swydd Gaerlŷr, lle mae M&S yn disgwyl  dosbarthu dwy filiwn o eitemau dillad a nwyddau i’r cartref bob wythnos.

Mae tua 100 o bobl eisoes yn gweithio ar y safle cyn i’r ganolfan agor yn gynnar y flwyddyn nesaf.