Mae cwmni BAE Systems wedi cadarnhau ei fod yn cynnal trafodaethau am y posibilrwydd o uno gyda chwmni EADS, sy’n berchen cwmni Airbus.
Dywedodd BAE y byddai uno gyda EADS yn creu cwmni “o safon fyd-eang” yn y sector, gyda gwerthiant ar y cyd o £60 miliwn a tua 220,000 o weithwyr. Fe fyddai’r grŵp yn cyflogi 48,000 yn y DU.
Mae Airbus yn cyflogi 6,500 o weithwyr ym Mrychdyn yn Sir y Fflint.
Dywedodd llefarydd ar ran BAE ei bod yn rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd a fyddai swyddi’n cael eu colli.
Roedd gwerth cyfranddaliadau yng nghwmni BAE wedi codi 11% yn dilyn yr adroddiadau am y trafodaethau.
‘Hanes hir o gydweithio’
Petai’r cwmnïau’n uno byddai 40% o’r cwmni yn berchen i gyfranddalwyr BAE a 60% yn berchen i gyfranddalwyr EADS.
Dywedodd y llefarydd bod gan y ddau gwmni hanes hir o gydweithio a’u bod yn bartneriaid ar sawl menter, gan gynnwys yr Eurofighter.
Ychwanegodd y byddai’r uno’n “creu grŵp awyrofod, diogelwch ac amddiffyn o safon fyd-eang gyda chanolfannau ragoriaeth yn Ffrainc, Yr Almaen, Sbaen, y DU a’r Unol Daleithiau.”
Dywed BAE bod y cwmnïau mewn trafodaethau gyda llywodraethau i drafod goblygiadau’r uno oherwydd natur sensitif eu gwaith.
Mae BAE wedi bod dan bwysau yn ddiweddar, gan gyhoeddi gostyngiad o 14% mewn gwerthiant y llynedd wrth i wariant lluoedd arfog y DU a’r UDA gael ei dorri. Roedd hyn wedi golygu gostyngiad o 7% yn eu helw yn 2011 i £2 biliwn.