Y dafarn
Mae tafarn oedd wedi “sarhau” enw Owain Glyndŵr drwy drefnu dathliad o Jiwbilî’r Frenhines wedi gwneud tro pedol a bellach yn gobeithio dathlu coroni Tywysog olaf brodorol Cymru.

Heddiw cyhoeddodd tafarn Owain Glyndŵr, Caerdydd, eu bod nhw wedi troi cefn ar eu cynlluniau i ddathlu Jiwbilî’r Frenhines dros bythefnos gŵyl y banc.

Roedd cenedlaetholwyr a gweriniaethwyr wedi ymateb yn ffyrnig i gyhoeddiad y dafarn eu bod nhw’n bwriadu dathlu’r Jiwbilî ar 4 Mehefin.

Dywedodd perchnogion y dafarn wrth Golwg 360 na fydden nhw’n dathlu teyrnasiad 60 mlynedd y Frenhines.

Maen nhw bellach wedi cyhoeddi y byddwn nhw’n cynnal dathliad ar 21 Mehefin yn lle, sef diwrnod coroni Owain Glyndŵr a sefydlu Senedd gyntaf Cymru.

“Hoffwn i ymddiheuro yn gyntaf i unrhyw un oedd wedi ei dramgwyddo gan y penderfyniad ansensitif i ddathlu Jiwbili’r Frenhines,” meddai Kate Williams o’r dafarn wrth Golwg 360.

“Rydyn ni wedi gwrando ar lais pobol Cymru ac wedi parchu eu dymuniadau nhw.

“O ganlyniad rydyn ni yn nhafarn Owain Glyndŵr yn teimlo ei fod yn iawn nad ydyn ni bellach yn dathlu Jiwbili’r Frenhines. Serch hynny fe fyddwn ni’n parhau i ddathlu gŵyl y banc, fel arfer.

“Rydyn ni wedi ein gorlethu gan yr angerdd y mae pobol wedi ei ddangos wrth gofio ein Tywysog olaf ac felly rydyn ni’n credu y dylai 21 Mehefin fod yn ddiwrnod o ddathlu er anrhydedd i goroni Owain Glyndŵr a sefydlu Senedd gyntaf Cymru.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobol yn dangos eu cefnogaeth wladgarol er cof am Dywysog olaf Cymru wrth ddathlu’r penwythnos mawr gyda ni.”