Llun o glawr yr adroddiad
Mae llawer o’r cannoedd o filiynau o bunnoedd o grantiau cyhoeddus yng Nghymru’n cael eu rheoli’n wael ac mae’r un gwendidau’n cael eu hailadrodd dro ar ôl tro.

Dyna gasgliad mewn adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol, sy’n dweud bod llywodraeth a chyrff cyhoeddus Cymru’n gwneud mwy o ddefnydd o grantiau na’r un rhan arall o wledydd Prydain.

Ymhlith y gwendidau pennaf, mae methiant i wneud yn siŵr o sefyllfa ariannol y rhai sy’n derbyn grantiau a meini prawf digon clir am y canlyniadau.

Maer Archwilydd yn galw ar gyrff cyhoeddus i weithredu’n “gadarn” pan fydd grantiau’n cael eu camddefnyddio.

‘Rhy gymhleth’

Mae llawer o’r 500 o gynlluniau grant yn rhy gymhleth, meddai’r adroddiad, sy’n dweud bod cyrff yn methu â dysgu oddi wrth gamgymeriadau ei gilydd.

“Caiff llawer o grantiau eu rheoli’n wael, ac mae’n amlwg nad yw arianwyr a derbynwyr yn dysgu o gamgymeriadau yn y gorffennol, gan gynnwys peidio ag ystyried dulliau gweithredu eraill,” meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas.

“Fodd bynnag, mae tystiolaeth i ddangos bod y rhai sy’n rhan o’r broses grantiau am wella systemau a phrosesau ac mae Swyddfa Archwilio Cymru mewn sefyllfa dda i barhau i’w helpu i wneud hynny”.

Y cefndir

Rhan o’r cefndir i’r adroddiad yw ymchwiliadau cynharach i gam weinyddu difrifol, fel yn achos y corff datblygu economaidd, Cymad, yng Ngwynedd a phrosiect Cymunedau’n Gyntaf ym Mhlas Madoc ger Wrecsam.