Roedd sicrhau bod Clwb Pêl-droed Caerdydd yn diogelu eitemau sy’n ganolog yn eu hanes yn “hanfodol”, yn ôl llefarydd ar ran ymddiriedolaeth y cefnogwyr.

Mae cyfres o eitemau, gan gynnwys rhaglen swyddogol y gêm pan gododd yr Adar Gleision dlws Cwpan FA Lloegr yn 1927, wedi cael eu gwerthu am fwy na £28,000 mewn ocsiwn.

Ond fe wnaeth y clwb sicrhau mai nhw oedd wedi prynu’r eitemau a allai fod wedi mynd yn angof fel arall.

Roedd oddeutu 40 o eitemau yn yr ocsiwn, ac fe gawson nhw eu gwerthu am fwy na dwywaith y pris disgwyliedig, gan gynnwys y rhaglen swyddogol a gafodd ei gwerthu am £1,100 a dau docyn ar gyfer y gêm am £360.

Y gobaith yw y bydd modd cadw’r eitemau mewn amgueddfa yn y dyfodol.

“Ry’n ni fel Ymddiriedolaeth ar ddeall bod y clwb wedi llwyddo i brynu rhan helaeth o’r casgliad hollbwysig yma,” meddai llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth wrth golwg360.

“Mae’n hanfodol ein bod yn diogelu treftadaeth chwaraeon a diwylliannol y clwb pêl-droed fel hyn.

“Mater o bwys i’r cefnogwyr, y clwb ac, yn wir, i Gymru gyfan yw ein bod ni’n cadw ein hetifeddiaeth ddiwylliannol.”