Mae arddangosfa ‘SAIN 50’ wedi agor yn Storiel, Bangor sy’n adrodd hanes y cwmni recordiau dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys detholiad o bosteri, llythyrau, ffotograffau, cloriau recordiau a chryno ddisgiau yn ogystal â pheiriant recordio wyth trac o 1975 – peiriant amldrac cyntaf Sain.

Bydd yno hefyd gyfle i weld nifer o’r artistiaid a bandiau sydd wedi recordio cerddoriaeth gyda Sain.

Cafodd Sain ei sefydlu yn 1969 gan Dafydd Iwan a Huw Jones, gyda chymorth gan Brian Morgan.

Bydd yr arddangosfa ‘SAIN 50’ yn Storiel, Bangor tan 18 Ebrill.