Fe fydd buddsoddiad o £130m mewn prosiectau is-adeiledd yn cael ei gyhoeddi gan Mark Drakeford heddiw (dydd Llun, Tachwedd 4).

Mae’n rhan o’r ail rownd o fuddsoddiad cyfalaf allweddol, yn dilyn buddsoddiad o £85m yn wyneb ansicrwydd Brexit ym mis Mehefin.

Bydd y £53m ychwanegol yn lleihau’r ansicrwydd i fusnesau Cymru ac yn cynnig buddsoddiad ychwanegol ar gyfer prosiectau’r dyfodol.

Mae’r arian yn cynnwys £30m ar gyfer cynlluniau tai, £19m ar gyfer teithio a ffyrdd, £20m ar gyfer ysgolion a cholegau, £7m ar gyfer yr amgylchedd (gan gynnwys £4m ar gyfer parciau cenedlaethol) ac £1m ar gyfer cronfa fenthyciad cymunedol ar gyfer cyfleusterau.

‘Neges glir’

Yn ôl Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, mae’r buddsoddiad diweddaraf yn anfon “neges glir” fod Llywodraeth Cymru’n amddiffyn buddiannau’r wlad.

“Mae’r arian heddiw yn anfon neges glir, wrth i anhrefn San Steffan barhau, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wireddu ein prif ymrwymiadau i warchod buddiannau Cymru ac i dyfu’n heconomi,” meddai.

Yn ôl Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, mae’r arian yn “ymateb i’r heriau” mae’r llywodraeth yn eu hwynebu.

“Gyda chysgod Brexit yn drwm o hyd, mae angen i ni ymateb i’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu, gan barhau i gynllunio ar gyfer anghenion is-adeiledd Cymru yn y dyfodol.

“Bydd yr arian rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn ein helpu ni i wneud yr union beth hwnnw.”

Dywed y bydd rhagor o gynlluniau ar gyfer yr amgylchedd yn cael eu hamlinellu yn ystod y Gyllideb ddrafft ar Dachwedd 19.