Mae cwmni theatr cymunedol wedi cadarnhau y bydd yn symud eu pencadlys i Ddyffryn Nantlle – er bod y bwriad gwreiddiol o brynu hen westy wedi mynd i’r gwellt.

Bwriad gwreiddiol Theatr Bara Caws oedd symud o’i uned ar stad ddiwydiannol Cibyn ar gyrion tref Caernarfon, i ganol pentref Pen-y-groes.

Fe sefydlwyd cronfa i godi £30,000 at y grant refeniw o £70,000 a gafodd ei ddyfarnu i’r cwmni gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond mae’r adeilad bellach wedi’i werthu am bris uwch i brynwr arall.

“Mae ein cartref newydd ni yn mynd i fod ym Mhen-y-groes ac mi fydd yno ddatganiad i’r wasg maes o law,” meddai Linda Brown ar ran y cwmni wrth golwg360. “Mi fydd o’n hyd yn oed mwy cyffrous na’r cynllun cynt.

“Mae’r cwmni wedi ymestyn y brydles ar ei pencadlys ar stad ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon oherwydd doedd yno ddim ffordd y bydda ein pencadlys newydd ni yn barod mewn pryd.”

Cefnogaeth CCC yn sefyll

Mae Theatr Bara Caws yn dweud y bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cadw ei air ac yn cyfrannu 70% (£70,000) o’r gost at y pencadlys newydd/ Yn y cyfamser, mae’r £30,000 a godwyd trwy gyfraniadau gan gefnogwyr ledled Cymru. bellach yn y banc.

“Mae’r arian yn cael ei gadw mewn cyfrif arbennig ar hyn o bryd, ac mae arian yn dal i ddod i mewn,” meddai Linda Brown.

“Cryn dipyn o amser” nes gallu agor

Mae Theatr Bara Caws yn darogan y bydd hi’n “amser hir” nes y bydd y pencadlys newydd yn barod i’w agor yn swyddogol.

“Fydd o ddim yn barod am amser hir oherwydd mae’r holl bethau yma yn cymryd oes,” meddai Linda Brown wrth golwg360.

“Dydi’r pensaer heb weld y lle newydd newydd eto, mae hi bendant yn early days.”