Mae canlyniadau arolwg newydd yn awgrymu fod traean gweithwyr gwledydd Prydain yn credu bod Brexit eisoes wedi cael effaith negyddol ar y busnesau sy’n talu eu cyflogau.

Dywed hanner o’r 1,000 o bobol a gafodd eu holi, eu bod yn poeni am yreffaith gaiff Brexit ar fusnes eu cyflogwr yn ogystal â’r effaith a gaiff arnyn nhw.

Mae hanner y bobol sy’n cael eu holi o’r farn bod ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn achosi i staff deimlo o dan straen ac yn ofidus.

Mae yna ansicrwydd ymysg busnesau oherwydd Brexit.  Honnai’r arolwg nad yw busnesau yn siŵr am bethau megis pa gyfeiriad i symud y busnes, os dylent ddechrau prosiectau newydd a chymryd risg.