Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai rhanbarth rygbi’r Gweilch symud o Stadiwm Liberty, a chwarae gemau ar eu safle hyfforddi yn Llandarcy

Fe fu’r rhanbarth yn chwarae yn y stadiwm yn Abertawe ers 2005, a chyn hynny roedden nhw’n symud rhwng San Helen a’r Gnoll yng Nghastell-nedd, gyda gemau achlysurol ar gae’r Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ond mae trafodaethau ar y gweill i geisio datrys sefyllfa lle mae eu stadiwm ond yn hanner llawn, os hynny, ar gyfer gemau.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y safle yn Llandarcy yn cynnwys stadiwm newydd â lle i hyd at 12,000 o gefnogwyr – sydd dipyn llai na’r 20,000 yn Stadiwm Liberty.

Fe allai’r safle newydd gynnwys cyfleusterau ar gyfer academi Clwb Criced Morgannwg, Pêl-rwyd Cymru a Chwaraeon Cymru, yn ôl Wales Online.