Mae pâr o esgidiau rhedeg Nike prin o 1972 wedi gwerthu am $437,500 (tua £351,740), gan osod record byd newydd am bris pâr o drênyrs.

Y ‘Nike Waffle Moon Shoe’ oedd un o’r cyntaf i gael eu creu gan un o gyn-sylfaenwyr y cwmni, Bill Bowerman, a hynny ar gyfer rhedwyr yn nhreialon Olympaidd 1972. Dim ond dwsin o barau gafodd eu cynhyrchu i gyd, gyda chydig iawn o’r rhain yn dal mewn bodolaeth.

Cafod yr esgidiau eu gwneud a llaw gan un o weithwyr cyntaf Nike, Geoff Hollister, a dyma’r unig bâr sydd ar gael nad ydyn nhw wedi cael eu gwisgo.

Dywedodd Bill Bowerman ei fod wedi cael ei ysbrydoli i greu y patrwm waffl ar wadnau’r esgidiau wedi iddo chwarae gyda haearn waffl ei wraig, wrth dywallt rwber i’r mowld i greu y prototeip.

Cafodd y “Moon Shoe” ei enw oherwydd ei debygrwydd i’r patrwm “waffl” enwog adawyd ym mhridd y gofod gan ofodwyr 1969.

Gwerthwyd yr esgidiau i’r casglwr Miles Nadal. Y record byd blaenorol am bris pâr o drênyrs oedd yn 2017 pan dalwyd $190,373 (tua £153,050) am bâr o esgidiau Converse wedi eu gwisgo a’u harwyddo gan Michael Jordan yn rownd derfynol y gystadleuaeth bêl-fasged Olympaidd yn 1984.