Mae asgellwr Cymru ac Abertawe, Dan James, yn cael prawf meddygol gyda Man U heddiw (dydd Iau, Mehefin 6).

Dim ond blwyddyn sydd ar ôl yng nghytundeb Dan James gydag Abertawe ac mae disgwyl iddo arwyddo gyda chlwb Manceinion am £18m.

Roedd clybiau eraill a diddordeb i arwyddo’r llanc 21 oed ac mae sion ynghylch ymadawiad yr asgellwr o Stadiwm y Liberty wedi dechrau ers wythnosau ar ôl perfformiadau trawiadol i’r clwb ac i Gymru.

Mae Dan James yn rhan o garfan Ryan Giggs ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2020 Cymru yn erbyn Croatia ar ddydd Sadwrn (Mehefin 8) a Hwngari dridiau yn ddiweddarach (Mehefin 11).

Gwneud ei farc

Mae Dan James wedi gwneud ei farc yn y Bencampwriaeth y tymor hwn wrth sgorio pum gôl chreu 10 mewn 38 gêm, yn aml oherwydd ei gyflymder mawr.

Yn ogystal, fe lwyddodd i dorri mewn i dîm Cymru yn ystod dechrau’r ymgyrch Ewro 2020 wrth chwarae dwy gêm, oedd yn cynnwys gôl yn erbyn Slofacia i dîm Ryan Giggs.

Mae ganddo’r gallu i chwarae ar y ddwy asgell a thrwy’r canol, ond mae son bod Man Utd yn gweld dyfodol iddo ar yr asgell dde yn Old Trafford.