Mae clybiau pêl-droed Caerdydd a Nantes wedi cytuno i ymestyn y terfyn amser ar gyfer y taliad cyntaf am y diweddar Emiliano Sala.

Cafodd yr Archentwr ei ladd pan blymiodd ei awyren i’r môr oddi ar ynysoedd y Sianel yn fuan wedi iddo symud i Gaerdydd o Lydaw am £15m.

Ond roedd anghytundeb ynghylch pa glwb oedd yn berchen ar y chwaraewr gan fod y trafodaethau’n parhau.

Mae gan Gaerdydd tan Chwefror 27 i roi’r taliad cyntaf i Nantes, sy’n golygu wythnos o estyniad. Roedden nhw i fod i dalu £5.27 miliwn heddiw (dydd Mercher, Chwefror 20).

Mae David Ibbotson, peilot yr awyren, yn dal ar goll.

Ffrae

Mae’r cytundeb yn ddiwedd ar anghydfod sydd wedi para pythefnos.

Roedd cyfreithwyr Nantes wedi mynnu’r taliad cyntaf o dri ar Chwefror 5, ac roedd gan Gaerdydd ddeng niwrnod i dalu’r swm.

Ond roedden nhw’n mynnu nad oedden nhw’n fodlon talu nes bod yr ymchwiliad i farwolaeth Emiliano Sala yn dod i ben.

Mae Caerdydd hefyd yn cwestiynu nifer o fanylion yn y cytundeb, ond mae’r cadeirydd Mehmet Dalman yn dweud y byddan nhw’n talu’r arian sy’n ddyledus.

Mae cwestiynau ynghylch dilysrwydd trwydded y peilot i hedfan yr awyren, a rôl asiant yn y trefniadau i gludo Emiliano Sala o’r naill le i’r llall.

Mae yna gwestiynau hefyd am ddilysrwydd y polisi yswiriant am y chwaraewr, a’r trafodaethau i ddod o hyd i chwaraewr yn ei le yn Nantes. Mae arian yn ddyledus i Bordeaux hefyd o’i drosglwyddiad o’r fan honno i Nantes yn 2015.

Fe allai’r mater gael ei drosglwyddo i FIFA, a hyd yn oed i’r llysoedd chwaraeon, pe na bai modd cytuno ar yr holl elfennau sydd ynghlwm wrth y cytundeb.