Mae un o undebau’r ffermwyr yng Nghymru wedi llwyddo i godi bron £15,000 trwy gynnal digwyddiadau brecwast ledled y wlad.

Yn ystod wythnos Brecwast Ffermdy blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), a gafodd ei chynnal rhwng Ionawr 21-27, bu dros 27 o frecwastau mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru.

Mae’r arian a gafodd ei godi yn mynd tuag at ddwy elusen o ddewis Llywydd yr undeb, sef Cymdeithas Alzheimer Cymru a’r Rhwydwaith Cymunedol Fferm (FCN).

Yn ôl Glyn Roberts, mae bron £35,000 yn y gronfa ar gyfer y ddwy elusen hyd yn hyn.

“Mae cymunedau ffermio yn gymunedau clos ac mae hyn yn brawf o beth y gellir ei gyflawni gan bawb yn dod at ei gilydd, ac yn rhannu’r un nod gyffredin,” meddai ymhellach

“Drwy’r digwyddiadau hyn, rydym wedi eistedd o amgylch bwrdd y gegin i siarad, rhannu ein syniadau am #AmaethAmByth, ac wedi cryfhau cysylltiadau cyfredol, yn ogystal â sefydlu rhai newydd.

“Bydd yr arian a godwyd yn ein cymunedau gwledig yn mynd tuag at helpu eraill yn ein cymunedau – ni ddylem byth anghofio mai pobol sy’n ffurfio cymunedau a bodd modd cyflawni pethau anhygoel.”