Mewn cyfnod o gynni ariannol, mae mudiad y Ffermwyr Ifanc ar Ynys Môn yn chwilio am noddwyr i gynnal Eisteddfod Môn 2019.

Y mudiad fydd – am y tro cyntaf erioed – yn gyfrifol am gynnal yr eisteddfod yn Ysgol Uwchradd Bodedern, ddydd Sadwrn, Mai 18.

Mewn llythyr at y cylchgrawn Golwg mae Non Gwenllian Williams, cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Môn yn dweud: “Dyma dipyn o sialens, ond cyfle arbennig i ni gael dangos pwysigrwydd y mudiad ar yr ynys ac i gael rhoi ein stamp ein hunain ar yr Eisteddfod lwyddiannus hon.

“Er ein bod eisoes wedi trefnu amryw o weithgareddau codi arian, rydym yn dal i chwilio am noddwyr ar gyfer yr amrywiol gystadlaethau, yn ogystal â noddwyr cyffredinol ar gyfer yr eisteddfod.”

Os hoffech chi gefnogi’r fenter unigryw hon, cysylltwch â Non, aelod o’r pwyllgor neu ‘tîm trefnu’ ar 01407 720804 neu drwy anfon ebost at eisteddfodmon2019@outlook.com.