Mae angen £10,000 ar sinema gymunedol yn Blaenau Ffestiniog o fewn y mis nesaf, neu mae yna beryg y bydd yn rhaid iddi gau ei drysau, yn ôl ei rheolwr.

Cafodd CellB, sy’n cael ei rhedeg gan fenter gymdeithasol i bobol ifanc o’r enw Gwallgofiaid, ei hagor ar ei newydd wedd yn 2016, wedi blynyddoedd o ddangos ffilmiau yn fisol ar daflunydd lluniau mewn ystafell ar lawr yr hen orsaf heddlu.

Ond daeth problemau y llynedd i’r sinema 50 sedd, sydd hefyd yn cynnwys bwyty a hostel, pan dorrodd pibell ddŵr y tu cefn i’r sgrin, gan achosi difrod a chostau ychwanegol.

“Fe wnaeth y cwmni yswiriant [Town & Country Insurance Services] ddeud y byddan nhw’n talu allan, ond ar ôl i ni gael y cwmni sinema i dynnu’r sgrin a’r offer allan, roedd y gost dipyn yn fwy na beth oedd y cwmni yswiriant yn disgwyl,” meddai Rhys Roberts, rheolwr y sinema, wrth golwg360.

“Ddaru nhw gychwyn bacio off wedyn, ond yn ystod y cyfnod hwn, roeddan ni’n gorfod parhau i ddangos ffilms.

“Rŵan, oherwydd bod y cwmni yswiriant yn cau palu allan, mae arnom ni brês i’r darparwyr a’r bobol a wnaeth y gwaith ar y sgrin. Yn anffodus, rydan ni’n styc, ac yn methu dangos mwy o ffilms gan nad oes gynnon ni brês i dalu a chyfro’r costau.”

“Mae lot fwy i’w gynnig i’r gymuned”

Yn ôl Rhys Roberts, sydd wedi sefydlu cronfa ar-lein er mwyn codi arian, mae’n gobeithio y bydd y gymuned yn dod i’r adwy gan mai “sinema i’r gymuned ydy o”.

“Pobol ifanc oedd gwreiddiau’r syniad i setio fo [y sinema] i fyny, ac wedyn mae elw’r sinema i gyd yn mynd yn ôl i brosiectau pobol ifanc,” meddai.

“Mae Theatr Harlech wedi cau, ac mae eu hoffer nhw wedi mynd i lawr i dde Cymru rŵan. Mae Neuadd Buddug ar fin cau, a bydd eu hoffer nhw yn mynd hefyd.

“Os na fyddwn ni’n dod at ein gilydd a brwydro, mae yna beryg y bydd yr un peth yn digwydd yn y Blaenau.”

Er nad oes ffilmiau’n cael eu dangos yn y sinema ar hyn o bryd, dywed Rhys Roberts ei fod yn gobeithio cynnal digwyddiadau codi arian yn y sinema yn ystod y mis.

Bydd y rhain, meddai, yn cynnwys “petha bach doniol a quirky”,  gan nad yw CellB yn medru fforddio gweithredu fel “sinema broffesiynol” ar hyn o bryd.