Mae rasiwr beics proffesiynol sydd “wastad wedi joio coffi” wedi agor caffi yng Ngheredigion.

Mae Gruff Lewis, 31, wedi bod yn meddwl am agor ei le coffi safonol ei hun ers rhai blynyddoedd – a ddoe (dydd Llun, Tachwedd 12) fe agorodd drysau Caffi Gruff yn hen gapel Y Tabernacl ym mhentref Tal-y-bont.

Mae wedi arwyddo gyda thîm seiclo Ribble Pro Cycling, ac mae’n rasio’n broffesiynol ers 2010, mae wedi bod yn aelod o dimau mwya’ gwledydd Prydain yn cynnwys UK Youth, Pedal Heaven a Madison Genesis, yn ogystal â sylwebu ar y gamp i S4C.

“Joio coffi”

“Rwy’n joio coffi, ac wedi edrych mewn i wneud coffi o safon ers hir” meddai wrth golwg360. Ma’ fe’n mynd law yn llaw gyda beicio.

“Mae llawer o feicwyr ar fy lefel i yn gwneud hyn, ond dw i’n dal yn bwriadu cystadlu ar yr un lefel. Rwy’n agor y caffi am saith y bore, yn cau am ddau yn y prynhawn, yn gwneud ychydig o seiclo gan baratoi at rasio.

“Mae’n dda,” meddai wedyn, “rwy’n gallu rhedeg y caffi o gartref, wedyn mynd i feicio… ond yn fwy na hynny mae fy mab Guto yn gallu cael fi o gwmpas – does ddim angen i fi weithio i ffwrdd gymaint.”

Cynnyrch lleol a thema amlwg

Efallai nad ydi hi’n annisgwyl nac yn sioc fod gan Gruff Lewis feic i fyny ar y wal yn ei gaffi newydd.

“Mae gen i luniau o fi’n rasio, cwpwl o grysau o gwmpas y lle… gan gynnwys un pan oni’n bencampwr Cymru,” meddai.

“Rwy’n cael fy holl gacennau lleol o bentref Capel Bangor, ac mae’r cacennau traddodiadol yn cael eu gwneud gan fy anti.

“Rwy’n edrych at y posibilrwydd o wneud bwyd poeth amser cinio yn y dyfodol… ond mae hi’n ddyddiau cynnar.”