Mae dynes o Aberystwyth, a oedd wedi ymddangos yng nghyfres newydd S4C Y Tŷ Arian, wedi sefydlu ei busnes ei hun, yn prynu, addurno a gwerthu dodrefn ers ymddangos ar y rhaglen.

Bwriad y rhaglen yw annog teuluoedd i ail ystyried eu harferion gwario.

Roedd Nia Jenkins a’i theulu eisiau cynilo er mwyn ailwampio’u cartref ond fe ddechreuodd ei busnes Lwli Mabi o’i harfer o chwilio am ddodrefn.

Dywedodd Nia Jenkins: “Gan bo ni’n gwneud y tŷ lan, oedd gyda fi habit o chwilio am ddodrefn. O’n i’n prynu stwff er bod dim lle gyda fi iddo fe ac oedd e’n dechrau mownto lan, stwff rili neis. Dechreuais i baentio ac ers gwneud y rhaglen, fi wedi dechrau gwerthu fe.

“Mae’r rhaglen hyn wedi helpu fi i ddechrau busnes o beth y’f fi’n prynu. Fi ffaelu cadw lan gyda beth fi’n gwneud. Mae wedi mynd o nerth i nerth, eitha sioc wir bod beth o’n i’n gwneud yn ddigon da i werthu. Mae gwneud y rhaglen wedi rhoi’r hyder i fi fynd amdani.”

Ac mae ei busnes newydd yn mynd o nerth i nerth.

Ychwanegodd: “O’n i wedi bod yn potsian yn y tŷ a chael pobol yn gofyn, “Ble gest ti hwnna? Fi’n lico hwnna.” Ond doedd e ddim yn fy mhen i y gallen i werthu’r stwff fi’n ffeindio a ddim eisiau i fi’n hunan. Fydden i ddim wedi meddwl am hynny heblaw am y rhaglen.

“Ni wedi ffilmio a dangos ar Instagram (lwlimabi). Wnaethon ni drafod yn fanwl o le mae’r enw wedi dod, so fi’n gobeithio wnaiff e hybu’r busnes tamaid bach.

“Ar hyn o bryd, mae comisiwn yn dod mewn gyda fi ‘flat out’, sai’n gallu cadw lan gyda fe. Dechreuais i Instagram jyst cyn mynd ar y rhaglen, a ges i neges wrth Huw Ffash wedyn yn dweud bod Prynhawn Da yn dod i weld fi!”

Y Tŷ Arian, S4C, nos Iau, Mai 3, 8pm