Mae’r llog y gallwn ni ei gael ar gyfrifon banc yn allweddol i’n gallu i gynilo, yn ôl yr arbenigwr ariannol, Dr Gwion Williams o Adran Fusnes Prifysgol Bangor.

Yn 2017, llwyddodd teuluoedd yng ngwledydd Prydain ar gyfartaledd i gynilo dim ond 3% o’u hincwm misol, y raddfa isaf ers hanner canrif.

Ar y cyfan, roedd un o bob pedwar teulu wedi llwyddo i gynilo dim ond £95.

Mae Dr Gwion Williams wedi bod yn cynnig cyngor i gyfres realiti newydd sbon S4C, Y Tŷ Arian (nos Iau, Ebrill19, 8yh), sy’n rhoi’r cyfle i chwe theulu o bob cwr o Gymru ddysgu mwy am eu harferion ariannol wrth geisiog cynilo at ddiben arbennig.

Bydd teuluoedd o Lanfrothen, Merthyr Tudful, Aberystwyth, Caerffili, Brithdir (Dolgellau) a Waunfawr yn treulio 48 awr yn y ‘Tŷ Arian’ i drafod eu harferion gwario ac i ymgymryd â nifer o heriau ariannol.

Beth sy’n ein hatal ni rhag cynilo?

Bydd y gyfres yn codi sawl cwestiwn am y ffactorau sy’n effeithio ar ein gallu i arbed arian ac i gynilo – o or-wario ar bethau diangen i brysurdeb bywyd.

Ond dyw’r problemau sy’n codi ddim yn unigryw i’r Tŷ Arian.

Meddai Dr Gwion Williams: “Os yw pobol yn brysur, maen nhw’n fwy tebygol o gael têcawê, ac yn y blaen. Mae’n gallu achosi i bobol wario mwy o bres lle dydyn nhw ddim angen gwneud.

“Rhan o gyflymdra bywyd pobol ydi o, sy’n meddwl bod gynnon nhw lai o amser i feddwl am eu pres a’u bancio.

“Mae lot o hysbysebion ar y teledu yn deud wrth bobol pa mor hawdd ydi o i newid darparwr ond dydi pobol dal ddim efo’r amynedd i wneud yr ymdrech i’w wneud o.

“Os ydyn nhw’n sylweddoli faint o bres allen nhw arbed eu hunain, ella fyddan nhw’n dechrau meddwl am y peth…

“Maen nhw’n deud bo nhw’n gwario gormod ar fwyd neu ar drydan, ond dydyn nhw ddim yn gwybod faint maen nhw’n ei wario.

“I’r teulu cyffredin, ydyn nhw’n mynd i roi’r ymdrech yna i fewn eu hunain? Dydi pawb ddim yn mynd i fynd at ymgynghorydd ariannol i gael manylion eu gwariant.”

Arbed arian – pum cam syml

Mae llawer o bobol yn dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o amser i asesu eu hanghenion ariannol yn fanwl, felly mae Dr Gwion Williams wedi mynd ati i lunio pum cam syml i’ch helpu i gynilo.

Dyma bum darn bach o gyngor gan Dr Gwion Williams er mwyn arbed arian:

 

  • Nid ISA yw’r cyfrif gorau i’w ddefnyddio i gynilo. Mae llog gwell i gael mewn cyfrifon cyfredol (current account) neu gyfrifon cynilo rheolaidd (regular savers account). Mae hyn oherwydd y lwfans treth personol, sy’n golygu bod y £1,000 ar gael heb orfod talu treth. Mae ISA heb dreth, ond mae cyfrifon cyfredol yn cael eu trethu.

 

  • Cadwch lygad ar eich biliau trydan a nwy. Wnes i sylwi bod y teuluoedd yn Y Tŷ Arian yn gwario lot fawr o bres ar drydan a nwy. Mae modd sbïo i gael dêl gwell. A oes angen y gwres ymlaen drwy’r dydd?

 

  • Ewch â’ch bwyd eich hun i mewn i’r gwaith. Peidiwch â phrynu dêl bwyd i ginio. Byddai hynny’n arbed lot fawr o bres dros gyfnod o amser. 

 

  • Chwiliwch am gytundeb band llydan gwell. Mae llawer ohonoch yn yn gwario mwy o bres nag y dylech chi fod yn ei wneud.

 

  • Ystyriwch ailforgeisio eich tŷ. Dydy hyn ddim yn berthnasol i bawb. Os yw eich morgais yn gyfnod sefydlog o bum mlynedd, dydy o ddim werth ailforgeisio. Ond i chi sydd ar gyfradd newidiol, mae’n werth edrych ar ailforgeisio.