Mae’r Cymry yn blwyfol, a dydyn ni ddim yn “gweld ddigon pell”. Dyna yw safbwynt Cymro alltud sydd bellach yn byw yn Awstria.
Yn wreiddiol o Gastell Newydd Emlyn, mae John Morgan wedi treulio 40 mlynedd yn byw yn ninas Fienna, a bellach mae’n rhugl mewn pedair iaith gan gynnwys Almaeneg a Lwcsembwrgeg.
 Brexit ond blwyddyn union i ffwrdd, mae’r ymgynghorydd teiars yn teimlo “siom fawr” tros sut bleidleisiodd Cymru yn y refferendwm, a phryder am ein bydolwg fel cenedl.
“So’n helicopter ni wedi hedfan yn ddigon [uchel] fel ein bod ni’n cael darlun fwy eang o’r hyn sydd o’n blaen ni,” meddai wrth golwg360.
“Ni lawr yn rhy agos at y ddaear, a’n meddwl am beth sy’n digwydd yn y pentref, yn hytrach na beth sy’n digwydd tros y wlad neu yn y byd. Y
“broblem yw, i Gymru a Saeson a phawb ar Brydain Fawr – pobol yr ynys ydyn ni. A dyna be fyddwn ni.”
Pleidleisiodd 52.52% o bobol Cymru o blaid Brexit, ac o wledydd Prydain dim ond Lloegr oedd yn fwy cefnogol gyda 53.38% yn pleidleisio o’i blaid.
Siom
Er ei siom, mae John Morgan yn ffyddiog na fydd Brexit yn cael ei wireddu, gan ddweud ei fod yn “amhosib”.
“Erbyn iddyn nhw setlo ar y ddêl maen nhw eisiau â’r Undeb Ewropeaidd, bydd y senedd â’r bobol ddim yn ei chroesawu.
“Felly dw i ddim yn gweld Brexit yn dod o gwbwl,” meddai. “Sa i’n gweld problem.”
Wrth ystyried goblygiadau Brexit pe byddai’n cael ei gyflawni, mae’r Cymro alltud yn nodi y byddai’n rhaid iddo gael gwared ar ei ddinasyddiaeth Brydeinig â mabwysiadu un Awstraidd.
Cefndir John Morgan
- Fe gafodd John Morgan ei fagu yng Nghastell-newydd Emlyn, ac yno y bu’n byw tan yr oedd yn 18, pan symudodd i Loegr i fyw
- Wedi tair blynedd yn gweithio i gwmni teiars Americanaidd ‘Goodyear’ cafodd ei anfon i’w canolfan ymchwil yn Lwcsembwrg
- Bu yno am saith mlynedd cyn symud i Awstria i fod yn beiriannydd ar brosiect Mercedes
- Ar ôl 18 blynedd ymunodd â chwmni teiars Continental, a bu’n gweithio â nhw tan iddo adael yn 2011
- Ar un adeg roedd yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol tros Dde Ddwyrain Asia gyda Continental
- Bellach mae’n ymgynghorydd â chwmni sydd dan nawdd llywodraeth Awstria
- Mae’n dweud ei fod yn “cadw cysylltiad cryf” â Chymru, ond “Fienna yw y cartref rhagor”